Un ysgol, pedwar llywydd a thref Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Alpha, Iwan a Moc
Disgrifiad o’r llun,

Alpha, Iwan a Moc - prif swyddogion undebau Abertawe, Bangor ac Aberystwyth eleni

Oes 'na rywbeth yn y dŵr yn Llanbed? Yn ogystal â Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones, mae ysgol uwchradd y dref wedi cynhyrchu dau lywydd ac ysgrifennydd cyffredinol undebau myfyrwyr Cymru eleni.

Fel Elin Jones AS, mae Alpha Evans, Moc Lewis ac Iwan Evans i gyd yn gyn-ddisgyblion o Ysgol Bro Pedr yn Llanbed ac yn arwain yn eu prifysgolion eleni.

Wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith o ddifri mae Cymru Fyw wedi bod yn holi'r tri am eu cysylltiad, sut mae ar fyfyrwyr eleni yng nghanol y pandemig a chael ambell gyngor gan Lywydd y Senedd, Elin Jones a Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion - cyn-ddisgybl arall.

'Hyder, angerdd a phenderfynoldeb'

"Rwy'n credu'n bendant bod yr addysg anhygoel a'r holl gyfleoedd gwych gawson ni yn Ysgol Bro Pedr wedi dylanwadu ar y tri ohonon ni," meddai Alpha Evans sy'n Ysgrifennydd Cyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe.

"Ni gyd mewn gwahanol brifysgolion ond ar ddiwedd y dydd ry'n ni gyd yn dod o ardal Llanbed a does dim byd yn mynd i newid hynny!"

Ffynhonnell y llun, Alpha Evans
Disgrifiad o’r llun,

'Rwy'n edrych ymlaen at yr her,' medd Alpha Evans

"Fe wnaeth eisteddfodau'r ysgol a'r Urdd, y gemau chwaraeon a chystadlaethau siarad cyhoeddus gynyddu ein hyder, ond tu ôl i'r holl gyfleoedd hyn, roedd cefnogaeth a chymorth yr athrawon a fu'n ddylanwad enfawr arnon ni ac ry'n ni'n ddyledus iawn iddyn nhw."

"Roedd hi'n ysgol weddol fach o ran niferoedd," meddai Moc Lewis, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, am Ysgol Bro Pedr "ac ro'n i'n teimlo bo fi'n cael digon o sylw gan yr athrawon a bod nhw wir eisiau i ni lwyddo."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Moc Lewis yn edrych ymlaen at yr her sydd o'i flaen eleni

Mae'r tri o Lanbed wedi mynd i brifysgolion mewn gwahanol rannau o Gymru, ond yn credu bod adnabod ei gilydd yn fantais fawr iddyn nhw yn eu gwaith.

Yn ôl Iwan Evans, sy'n llywydd UMCB, mae'r ffaith bod un o'i ffrindiau agosaf yn llywydd ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn mynd i'w helpu ef yn yr un swydd ym Mhrifysgol Bangor.

"[Rydw i a Moc] wedi 'nabod ein gilydd ers plentyndod, yn chwarae rygbi efo'n gilydd ers i ni fod yn 'Under 8s', a wedyn yn yr un grŵp clòs o ffrindiau drwy ysgol, felly mae'n gwneud cyfathrebu a rhannu syniadau llawer haws," meddai Iwan.

"Mae yr un peth yn wir am Alpha, aethon ni i'r un ysgol gynradd ac uwchradd a ry'n ni wedi bod yn yr un clwb Ffermwyr Ifanc am rai blynyddoedd hefyd."

Ffynhonnell y llun, Iwan Evans
Disgrifiad o’r llun,

'Ni'n nabod ein gilydd ers pan yn blant bach," medd Iwan

'Unigrwydd yn sgil Covid'

Mae amrywiol heriau yn wynebu yr undebau gwahanol bob blwyddyn, ond mae un peth yn gyffredin eleni, sef delio ag effeithiau Covid-19.

"Mae Covid wedi golygu fy mod wedi gorfod treulio'r tri mis cyntaf o fy swydd ar-lein yn hytrach nag yn y swyddfa ac mae hynny wedi bod yn anodd ar adegau," meddai Iwan Evans ym Mangor.

"Ar lefel bersonol, mae Covid wedi cael bach o effaith gymysglyd. Ar adegau dwi wedi bod yn iawn, ond ar adegau mae unigrwydd wedi bod yn rhywbeth rwy' wedi ei deimlo'n arw - yn enwedig wrth i fi fyw ar ben fy hun am gyfnodau dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Michael Gallagher
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan yn awyddus i geisio helpu'r myfyrwyr i ymdopi â Covid

"Mae llawer wedi diodde o ryw effaith i'w hiechyd meddwl, a dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael fy ffrindiau a fy nheulu yna i drafod unrhyw bryderon a chyfnodau o deimladau isel, sydd wedi bod yn ardderchog.

"Nawr dwi wrthi yn ceisio rhoi ymgyrchoedd at ei gilydd ar gyfer y tymor cyntaf i helpu pobl i ymdopi â'r cyfan."

Er gwaetha'r pandemig, mae Iwan Evans yn dweud ei fod am gynnig y profiad gorau i fyfyrwyr Bangor.

"Rwy' am sicrhau fod y gymuned o fyfyrwyr Cymreig yn dal i fod yn gryf yma ym Mangor."

Ffynhonnell y llun, UMCB
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi am roi nôl i'r undeb y profiadau da ges i gan UMCB,' medd Iwan

'Ymgyrchu dros yr iaith'

Wrth i Abertawe wynebu cyfyngiadau pellach, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd ar-lein fydd y myfyrwyr yno hefyd, medd Alpha ond mae hi am sicrhau fod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed.

Yn ôl Moc, cynnal digwyddiadau ar-lein fydd y myfyrwyr yn Aberystwyth, ond mae'n gweld cyfleoedd yn hynny hefyd.

"Yn lle edrych ar hyn mewn ffordd negyddol, rwy'n edrych ar y cyfleoedd mae hyn yn rhoi i fi.

"Wrth i'r ochr gymdeithasol fod yn llai hectig rydw i'n gallu canolbwyntio ar fy mlaenoriaethau fel Swyddog Diwylliant Cymreig. Rwy'n gallu ymgyrchu dros yr iaith ac ymgyrchu i gael mwy o fodiwlau trwy'r Gymraeg."

Yn Aberystwyth mae Neuadd Pantycelyn wedi agor ei drysau ac mae sicrhau llwyddiant y neuadd a denu mwy o fyfyrwyr i UMCA hefyd yn flaenoriaeth gan Moc, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd llwyddiant Neuadd Pantycelyn yn bwysig eleni, medd Moc Lewis

Dylanwad Llanbed

Mae'r tri myfyriwr yn credu eu bod nhw wedi cael addysg dda yn Ysgol Llanbed i'w paratoi ar gyfer eu swyddi eleni.

"Dwi wedi bod yn rhywun sydd yn lico bod 'in charge' yn y gorffennol, ond hefyd wedi bod yn hapus i ddilyn, sydd wedi rhoi perspectif gwahanol i fi ar beth yw arweinydd da," meddai Iwan.

"Rwy' wastad wedi bod yn berson penderfynol, wrth fy modd yn gwthio fy hun i wneud pethau newydd ac anghyfarwydd ac yn awyddus i fachu ar bob cyfle," meddai Alpha wrth edrych ymlaen at y flwyddyn heriol sydd i ddod.

"Dw i'n gweld fy hunan yn berson gonest iawn, efallai rhy onest ar adegau. Os oes rhywbeth sydd angen ei wneud, fe wna i e," meddai Moc.

Ffynhonnell y llun, Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones gydag Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake a oedd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed

Ond pa rinweddau sydd angen ar arweinydd da? Pa gyngor gall dau gyn ddisgybl arall o Ysgol Bro Pedr, sef Llywydd y Senedd Elin Jones ac AS Ceredigion, Ben Lake, ei gynnig ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd?:

  • Bydd Covid-19 yn golygu y byddwch fwy na thebyg yn rhan o drafodaethau eithriadol gyda'r Brifysgol, ac yn rhan o benderfyniadau fydd yn dylanwadu'n fawr ar brofiadau dyddiol myfyrwyr a'r gymuned ehangach.

  • Gwnewch yn siŵr bod manylion cyswllt da gyda chi er mwyn sicrhau cyfathrebu cyson gydag awdurdodau'r Brifysgol.

  • Byddwch yn barod am broblemau dwys ac anodd ond hefyd achosion hollol hurt.

  • Mae'n bwysig trin pawb yn gyfartal ond peidiwch â phoeni os ydych yn treulio mwy o amser ar helpu achos difrifol neu ar argyfwng nac ydych chi ar achosion bychain.

  • Bydd y rhestr waith yn tyfu'n gyflym. Mae rhannu'r baich gwaith yn hanfodol bwysig yn ogystal â sicrhau bod modd manteisio ar syniadau pawb.

  • Byddwch yn garedig beth bynnag yw'r sefyllfa neu'r straen. Mae'n bosib iawn fydd y misoedd nesaf yn rhai anodd, ac yn rhoi tipyn o straen ar fyfyrwyr a staff y Brifysgol.

  • Peidiwch â digalonni nac ymateb yn flin os fydd rhywun yn grac gyda chi. Mae gan bawb berffaith hawl i leisio'u barn, ac ein dyletswydd ni fel cynrychiolwyr yw i geisio cyfleu'r farn honno gyda'r awdurdodau perthnasol.

  • Bydd yna demtasiwn i ddweud 'ie' i bob cais am gymorth, ond byddwch yn barod i ddweud 'na' ar achlysur. Mae'n llawer gwell bod yn onest gydag unigolyn yn hytrach nag addo helpu rhywun ac yna peidio.

  • Byddwch yn ofalus ar y cyfryngau cymdeithasol - meddwl cyn anfon neges.

  • Byddwch yn garedig i eraill, ond byddwch hefyd yn garedig i'ch hunan. Rhaid i chi gael seibiant bob wythnos (neu bob dydd) a byddwch yn gweithio'n well wedi hynny.

Hefyd o ddiddordeb: