Ysgol 'mewn trallod' wedi marwolaeth disgybl 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol uwchradd yn Sir Y Fflint yn dweud fod pawb yna "mewn trallod" yn dilyn marwolaeth sydyn disgybl 13 oed.
Bu farw Chantelle Jones, oedd yn mynd i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Yr Hôb, ddydd Iau.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd pennaeth dros dro'r ysgol, Paul Edwards ei bod yn ferch "â photensial rhyfeddol" oedd â "ffordd hyfryd o ddangos ei bod yn malio amdanoch".
Aeth ymlaen i ddweud fod angen i'r ysgol ac eraill sicrhau "fod bwlio o unrhyw fath byth yn dderbyniol" ymhob rhan o gymdeithas.
Mewn datganiad ar y cyd gyda'r ysgol, dywedodd rhieni Chantelle nad oedd rhai negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol o fudd iddyn nhw, ac yn "gwbl anghywir".
Gofynnodd ei rhieni am "y cyfle i alaru mewn heddwch".
'Safwn gyda'n gilydd'
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn llunio adroddiad ar gyfer y crwner yn amlinellu amgylchiadau'r farwolaeth.
Ddydd Sul, daeth nifer fawr o gefnogwyr at ei gilydd mewn parc ger cartref Chantelle, ym mhentref Llai ar gyrion Wrecsam, i'w chofio.
Roedd nifer yn gwisgo crysau-T neu'n cario baneri ag arnyn nhw negeseuon yn gwrthwynebu bwlio.
Dywedodd Mr Edwards: "Ni ellir llenwi'r twll yn ein calonnau ar ei hôl.
"Safwn gyda'n gilydd mewn llwyr undod gyda holl aelodau'r cyhoedd wrth alaru dros golli Chantelle...
"Rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i weithio'n agos gyda'r holl deuluoedd ac asiantaethau proffesiynol i anrhydeddu'r goffadwriaeth am Chantelle a bod bwlio o unrhyw fath byth yn dderbyniol mewn unrhyw ran o'n cymdeithas."
Mae cronfa i gefnogi ei theulu eisoes wedi codi dros £11,000.
Ychwanegodd Mr Edwards: "Rydym mewn trallod wedi marwolaeth Chantelle, a thros nifer o flynyddoedd nawr rydym wedi ceisio addysgu pob myfyriwr ynghylch y defnydd derbyniol o'r cyfryngau cymdeithasol.
"Mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu, ac yn, cael canlyniadau dinistriol ar fywydau ifanc - negeseuon sy'n cyrraedd, heb yn wybod i rieni ac athrawon, unrhyw adeg o'r dydd a'r nos ac fe all gael effaith uniongyrchol, a pharhaus weithiau, ar berthnasau a chyfeillgarwch.
"Yn yr ysgol, pan ddaw'r fath wybodaeth i'n sylw, rydym yn ymchwilio'n syth ac yn gweithio'n galed eithriadol i gefnogi'r myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio, tra'n ceisio helpu ac addysgu'r rheiny sydd angen deall canlyniadau camweithredu, er iddo ddigwydd tu hwnt i oriau ysgol."