O 'locdown' i Coronation Street

  • Cyhoeddwyd
Gareth Pierce fel Todd Grimshaw yn Coronation StreetFfynhonnell y llun, ITV

Mae'r actor Gareth Pierce ar fin ymddangos fel un o gymeriadau enwog Coronation Street.

Rhai misoedd yn ôl, fel gweddill y wlad, roedd yr actor adre gyda'i deulu yn rhoi gwersi ysgol i'w ferch fach o'u cartref ym Mhenarth. Erbyn hyn, mae'n camu i mewn i sgidiau Todd Grimshaw, cymeriad sydd wedi bod yn yr opera sebon ers bron i 20 mlynedd.

"Mae wedi bod yn gyfnod eitha swreal i ddod allan o lockdown a syth mewn i job fel hyn," meddai Gareth fydd i'w weld fel Todd Grimshaw am y tro cyntaf ar nos Wener, Hydref 9.

"Mae'n deimlad od, oherwydd dwi 'di bod ar y set yn ffilmio am bron i ddeufis a dwi wedi setlo yno rwan, ond wedyn mae'r rhaglenni heb fynd allan eto."

Enwogrwydd a'r paparazzi

Mae Gareth yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi fel Stella, Y Gwyll, Byw Celwydd a Caerdydd ers blynyddoedd, ac yn lais cyfarwydd i wrandawyr The Archers ar Radio 4, ond mi fydd proffeil ei gymeriad yn opera sebon hynaf y wlad, yn debygol o ddod â newidiadau i'w fywyd, meddai.

"Mae'r following i Coronation Street yn enfawr, ac mae 'na ddiddordeb yn Todd Grimshaw oherwydd yr ail-gastio, felly mae rhai o'r cast yn dweud fydd pethau'n newid i fi pan fydd y rhaglenni yn mynd allan ar y teledu.

"Ar hyn o bryd os ydw i am fynd allan am fwyd ym Manceinion does neb yn dod fyny ata i, ond gall hynny newid.

"Dwi'n teimlo mod i bach in denial am yr holl beth, dwi jyst yn cario mlaen fel byswn i.

"Dydy'r paps ddim yn bothro fi yma [ym Mhenarth] ond gawn weld pan af i nôl i'r stiwdio, ar ôl y penodau fynd allan, bydd o'n rhyfedd.

"Dwi ddim isho meddwl am ochr yna o'r peth. Pen i lawr a chario mlaen efo'r gwaith a gobeithio neud jobyn da."

Ffynhonnell y llun, Gareth Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Ei enw ar ddrws ei stafell wisgo ar set Coronation Street ar ei ddiwrnod cyntaf

Mae ail gastio cymeriadau gydag actorion gwahanol yn gonfensiwn derbyniol ym myd yr operau sebon, ac mae Gareth Pierce wedi ymchwilio i gefndir cymeriad Todd Grimshaw, a arferai gael ei chwarae gan yr actor Bruno Langley tan iddo adael yn 2017.

"Dwi 'di 'neud fy ngwaith cartref ac edrych be' mae Todd wedi neud yn y sioe o'r blaen, ond dwi ddim yr un actor so mae'n bwysig bo fi yn ffeindio fy ffordd i o'i chware, a mynd â'r cymeriad ymlaen i'r dyfodol.

"Os ti'n neud gwaith theatr, mae'n eitha od i chware rhan sydd heb gael ei chwarae gan rywun o dy flaen di.

"Dwi di gweld o fel mantais bod y cymeriad 'di setio fyny yn barod."

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Pierce gyda Sue Cleaver sy'n chwarae ei fam ar sgrin, Eileen, a Daniel Brocklebank sy'n chwarae ei gyn gariad

Cyfnod anodd i actorion

Mae'r diwydiant actio wedi dioddef yn galed yn ystod y pandemig, gyda stiwdios teledu'n stopio ffilmio a theatrau yn cau, ac roedd Gareth Pierce yn eistedd adre' am fisoedd yn meddwl pryd fyddai'r alwad nesaf yn dod.

"Dau fis yn ôl o'n i adra yn homeschoolio, ddim yn gwybod o lle mae'r job nesa' yn dod, felly dwi'n mynd mewn i'r job yma yn humble yn gwybod yn iawn pa mor anodd mae'n gallu bod.

"R'on i wedi anfon self-tape [clyweliad ar dâp] i Coronation Street ym mis Mawrth.

"Wedyn pan ddaeth y lockdown o'n i'n gwybod bod Coronation Street wedi stopio ffilmio felly o'n i'n meddwl 'wnai ddim clywed nôl o fanna', a'i roi i un ochr.

"Ond wedyn diwedd mis Mehefin, ges i alwad yn dweud mod i yn y mix ac i fi fynd i'r set ym Manceinion am brawf sgrin.

"O'dd hwnna'n deimlad od achos fel pawb, o'n i 'di bod adra, yn mynd am wâc efo fy hogan fach i, dim ond yn cael mynd allan i'r siop unwaith yr wythnos - a nôl wedyn yn trio ffeindio fy A- game i gael y rhan ar Corrie.

Ffynhonnell y llun, Gareth Pierce

"R'on i lawr i'r tri olaf, wedyn cefais fy ngalw am brawf i weld os oedd y cemeg yna efo Sue Cleaver sy'n chware Eileen, mam Todd, a Dan sy'n chwarae ei gyn gariad.

"O'n i'n nerfus, ond oedd Dan a Sue mor hael wnaethon ni glicio yn syth. Ma' nhw 'di bod yn gefnogol iawn ohona i o'r cychwyn felly dwi wedi gallu mynd mewn i'r job yn hyderus."

Acenion, cymeriadau gwahanol ac actio yn Gymraeg

"Dwi'n dod o Bwllheli yn wreiddiol felly dyna sut dwi'n siarad Cymraeg," meddai Gareth sydd wedi treulio blynyddoedd o'i fywyd ers ei blentyndod yng ngogledd Cymru, yn byw mewn gwahanol lefydd.

"O naw oed ymlaen, oherwydd gwaith Dad, wnaethon ni symud o gwmpas lot. O'n i'n byw yn Yorkshire am gyfnod ac mae hynny wedi fy helpu Iot gyda acen Cornonation Street.

"Mae lot sy'n fy nabod i o gyfresi fel Stella a'r Archers ar Radio 4 yn meddwl taw acen de Cymru sydd gen i - ond pan dwi'n siarad Saesneg mae gen i acen hybrid o ogledd Lloegr a gogledd Cymru.

"Dwi 'di byw yn Wiltshire, Llundain, yr Almaen, Gogledd Iwerddon, felly ers bo fi'n ifanc o'n i'n trio ffitio mewn i llefydd newydd, dwi 'di bod yn neud acenion ers hynny. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd y byddai'n training da i fod yn actor!

"Dwi'n neud lot o waith i Radio 4 achos dwi'n rhad - maen nhw'n fy nghastio mewn drama i chwarae mwy nag un cymeriad, jyst newid yr acen!"

Felly wedi treulio llawer o'i fywyd y tu allan i Gymru ddim yn clywed yr iaith, mae'r diolch i Goleg Cerdd a Drama Cymru a'i rôl gyntaf yn Caerdydd ar S4C ei fod yn siarad ac yn actio'n y Gymraeg.

"Dyna lle wnes i ddechrau siarad Cymraeg eto, taswn i 'di mynd syth i goleg drama yn Llundain dwi ddim yn siwr a fydden i 'di cael y cyfle i ymarfer fy Nghymraeg a bod yn ddigon hyderus i weithio yn y Gymraeg.

"Wnes i ddysgu gymaint am berfformio ar gyfer y camera pan ges i rhan yn Caerdydd ar S4C, ti'n dysgu lot mwy am actio ar gyfer sgrin ar dy jobyn cyntaf. O'n i'n lwcus i weithio efo pobl fel Ed Thomas ac Ed Talfan pan o'n i mor ifanc."

Ers hynny mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar Alys, Y Gwyll, Cymru Fach a 35 Diwrnod ymhlith cyfresi eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Bu hefyd yn chwarae rhan Karl yn Ordinary Lies ar y BBC

Nostalgia Coronation Street ac ymateb y teulu

"Dwi'n cofio yn y 90au bod adra' yn gwylio Coronation Street efo Mam. Dyna'r cyfnod o Corrie sy'n nostalgic i fi. Os dwi'n gweld rhai o'r actorion ar set o'r cyfnod yna, mae'n deimlad mwya' swreal wrth ffilmio.

"Roedd teulu Mam yn dod o Fanceinion, oedd fy hen daid yn chwarae i Man City yn broffesiynol a dwi di bod yn neud bach o ymchwil i'r family tree, mae'n teimlo fel mynd adra i fi yn Manceinion.

"Erbyn hyn mae'r rhan fwya' o'r teulu yn byw ym Mhwllheli ac fel arfer mae Mam a Dad yn dweud wrth pobl Pwllheli am y rhaglenni dwi fewn - ond y peth efo Corrie - mae pobl wedi bod yn dod i fyny atyn nhw yn dweud mod i yn Coronation Street!

"Dwi'n gwbod bydd y teulu i gyd yn gwylio nos Wener ac yn prowd iawn."

Hefyd o ddiddordeb: