'Personoliaeth yn newid am un wythnos bob mis'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Lisa Jên wedi bod yn dioddef yn waeth o'r cyflwr ers iddi gael plant

Mae actores a chantores adnabyddus wedi trafod y boen o fyw gyda chyflwr sy'n ei heffeithio'n feddyliol ac yn gorfforol bob mis.

Dywed Lisa Jên Brown ei bod eisiau "camu allan o groen ei hun" ar brydiau, gymaint ydy'r straen o fyw gyda PMDD.

Mae'r cyflwr, sy'n cael ei alw'n "anhwylder disfforig difrifol", yn effeithio tua un o bob 20 o ferched, ac yn gallu arwain at or-bryder ac iselder dwys cyn y mislif.

"Mae 'na tua wythnos a hanner os nad pythefnos weithia' o'r mis sydd jyst yn gwneud pethau mor anodd," meddai prif leisydd y grŵp '9Bach'.

"Mae bob dim yn brifo, mae'r cefn yn brifo, mae'r frest yn dendar.

"Mae o'n un o'r petha 'na lle dwi'm 'di medru'i ddallt ac yn sicr ers cael plant mae o wedi mynd yn waeth."

Disgrifiad o’r llun,

"O'n i jyst yn teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ofnadwy yma"

Wedi blynyddoedd o fynd yn ôl ac ymlaen at y doctor i drafod iselder, ychydig fisoedd yn ôl, cafodd ddiagnosis o PMDD.

"O'n i'n meddwl ella fod genai bi-polar neu iselder drwg ond 'di o'm yn gwneud synnwyr pan ti'n teimlo'n iawn am dair wythnos," meddai.

"Dwi'm yn gwybod faint o bacedi o dabledi o anti-depressants dwi 'di gael dros y 10 mlynedd diwethaf sydd dal mewn bocs yng nghefn y cwpwrdd.

"Dwi erioed 'di agor y paced achos dwi wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r GP yn dweud dwi'n meddwl fod 'na rhywbeth yn bod arna fi, dwi'n rili isel ac yr ateb cyffredinol i hynna ydi cymryd rhywbeth i helpu fo.

"Dwi wastad wedi ymwrthod o achos rhan fwya'r amser dwi'n teimlo'n iawn.

"Be' sy'n od ydy bo' chdi'n gallu camu allan o hwnna achos munud wyt ti wedi dechrau gwaedu mae bob dim yn normaleiddio."

'Rhai cyplau wedi gwahanu'

Dywed bod cefnogaeth ei gŵr a'i theulu wedi bod mor werthfawr.

"Dwi'n nabod rhai cypla sy' 'di gwahanu oherwydd PMDD, a teuluoedd ddim yn gadael i famau fod efo'u plant am wythnos mewn mis oherwydd y PMDD," meddai.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae tua un o bob 20 o ferched yn byw gyda PMDD.

Mae Llywodraeth Cymru erbyn hyn yn ariannu cydlynydd lles a iechyd pelfig ymhob bwrdd iechyd - i helpu merched i ddod o hyd i wasanaethau priodol a hwyluso triniaethau.

Mae Lisa bellach yn chwilio am ffyrdd naturiol i wella'r symptomau, ac mae'n awyddus i godi mwy o ymwybyddiaeth.