Prifysgol Bangor: Hyd at 200 o swyddi dan fygythiad
- Cyhoeddwyd
Mae hyd at 200 o swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r brifysgol wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud arbedion o £13m "yn dilyn cwymp mewn incwm, yn gysylltiedig yn bennaf gyda recriwtio myfyrwyr tramor".
Yn ôl undebau llafur, mae 120 o swyddi staff cynorthwyol ac 80 o swyddi academaidd mewn perygl.
Dywed Plaid Cymru y byddai'r colledion yn "ddinistriol" ac yn "ergyd fawr i'r ardal".
Fis diwethaf fe ddechreuodd y brifysgol ar gyfnod ymgynghori ac mae bellach wedi rhannu cynllun ar gyfer ailstrwythuro gyda'r staff.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r diffyg a ragwelir mewn incwm, sy'n gysylltiedig yn bennaf â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, yn ei gwneud yn ofynnol i Brifysgol Bangor ganfod arbedion o £13m.
"Fis diwethaf dechreuodd y brifysgol ar gyfnod o ymgynghori ynglŷn â sut y gellid cyflawni'r arbedion hyn ac mae bellach wedi rhannu cynigion ar gyfer ailstrwythuro gyda staff, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.
"Gyda'n statws aur a gydnabyddir yn genedlaethol am ragoriaeth addysgu mae myfyrwyr yn ganolog i'r brifysgol. Ein blaenoriaeth wrth wneud unrhyw newidiadau fydd sicrhau bod eu profiad nhw nid yn unig yn cael ei warchod ond yn cael ei wella."
Ychwanegodd: "Er bod hwn yn gyfnod heriol iawn, mae hefyd yn gyfle i arloesi a wynebu'r dyfodol ar ôl Covid-19 yn gryfach fel sefydliad blaenllaw ym maes addysg uwch ac yn economi gogledd Cymru a thu hwnt.
"Mae hyd at 200 o swyddi staff Cyfwerth Amser Llawn mewn perygl o ddiswyddo."
Mae'r undebau llafur wedi beirniadu'r datblygiad, gan ddadlau nad ydy uwch swyddogion y brifysgol gyda diddordeb mewn cynllunio tymor hir neu asesu sut byddai modd gwneud arbedion heb golli swyddi.
Mae undebau Unsain, UCU ac Unite hefyd yn dweud y bydd y toriadau yn ergyd enfawr i'r economi leol.
Mae'r undebau'n dadlau bod dyletswydd ar Brifysgol Bangor i amddiffyn swyddi oherwydd ei bod yn un o'r tri phrif gyflogwr yng Ngwynedd ac y byddan nhw'n codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad 'dall'
Dywedodd Christine Lewis, ysgrifennydd cangen Unsain Bangor: "Mae Prifysgol Bangor yn rhuthro i ddiswyddiadau heb aros nes ein bod ni'n gwybod faint o fyfyrwyr domestig a thramor sydd yn mynd i fod yma'r flwyddyn nesaf.
"Mae swyddogion gweithredol y brifysgol wedi bod yn cael gwared ar staff am dair blynedd ac nid ydyn nhw wedi cyflawni sefydlogrwydd ariannol o hyd.
"Pam nad yw Bangor yn dweud 'gadewch i ni roi pobl o flaen adeiladau' a gweld os oes modd gwneud arbedion synhwyrol mewn man arall yn gyntaf, cyn cael gwared ar staff ymroddedig."
Dywedodd Dyfrig Jones, llywydd undeb UCU Prifysgol Bangor: "Mae prifysgolion yn sefydliadau sy'n dibynnu i raddau helaeth ar gyfalaf deallusol i ddarparu gwasanaethau.
"Mae diswyddo staff yn ystod pandemig pan fydd angen i'r brifysgol dynnu ar gyfalaf deallusol staff i ddarparu dysgu cyfunol a chefnogi myfyrwyr yn ymddangos yn ddall iawn."
'Ateb tymor byr'
Dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, bod 200 o swyddi "mewn ardal fel Bangor yn cyfateb i filoedd o swyddi mewn ardaloedd mwy poblog o'r wlad".
"Rwy'n hynod bryderus bod y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ruthro," meddai.
"Rwy'n galw ar y Brifysgol i weithredu mewn ffordd mwy pwyllog, ac i drafod gyda'r gweithlu er mwyn osgoi creu drwgdeimlad diangen a allai gael effaith negyddol tymor hir.
"Nododd y brifysgol mai Covid-19 sydd ar fai am y toriadau hyn, felly oni fyddai'n fwy rhesymol gweinyddu toriadau dros dro, yn hytrach na thoriadau parhaol a fyddai'n cael effaith niweidiol ar yr economi leol?
"Siawns y byddai'n fwy o werth torri costau nes y gallwn weld golau ar ddiwedd twnnel y pandemig.
"Os bydd y brifysgol yn parhau gyda'r toriadau hyn rŵan, bydd y swyddi hynny wedi diflannu am byth, a bydd y brifysgol yn wannach, ac wedi colli rhywfaint o'i bri o ganlyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020