Annog cabinet Cyngor Gwynedd i beidio cau Ysgol Abersoch
- Cyhoeddwyd
Fe all penderfyniad i gau ysgol gynradd yn Llŷn gael ei ohirio - am gyfnod o leiaf - ar ôl i bryderon gael eu codi am drefniadau'r ymgynghori yn ystod y pandemig.
Fis diwethaf, pleidleisiodd cabinet Cyngor Gwynedd yn unfrydol o blaid bwrw 'mlaen gyda chyfnod o ymgynghori statudol fyddai'n arwain at gau Ysgol Gynradd Abersoch yn haf 2021.
Ond mae'r aelod lleol a llywodraethwyr yr ysgol wedi annog aelodau Pwyllgor Addysg ac Economi'r cyngor i ailystyried, gan ddadlau bod y pandemig yn amharu ar y gallu i gynnal ymgynghoriad teg.
Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn dadlau y dylai Ysgol Abersoch gael ei hystyried yn "ysgol wledig" o dan ddiffiniad Llywodraeth Cymru, gan olygu bod tybiaeth yn erbyn y cau.
Pam fod bwriad i gau'r ysgol?
Ym mis Medi, dywedodd deilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams, nad oedd adroddiad ar ddyfodol yr ysgol "wedi ei gwblhau ar chwarae bach".
Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng tair ac wyth oed, ac mae'r plant yn trosglwyddo i ysgol gyfagos - Ysgol Sarn Bach, sydd 1.4 milltir i ffwrdd - ar ôl blwyddyn tri i gwblhau eu haddysg gynradd.
Os bydd yr ysgol yn cau, bydd y disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach am weddill eu haddysg gynradd.
Mae swyddogion addysg y cyngor o'r farn nad yw Ysgol Abersoch yn un gynaliadwy a hithau'n gweithredu ar 24% o'i chapasiti.
Mae'r wyth disgybl llawn amser a dau ddisgybl meithrin yn costio £17,404 y pen i'w haddysgu, o gymharu gyda'r cyfartaledd o £4,198 ar draws y sir.
Gyda dim ond disgwyl cynnydd bychan yn niferoedd y disgyblion yn y dyfodol, y ddamcaniaeth ydy y byddai cau'r ysgol yn creu arbediad ariannol blynyddol o £96,062, hyd yn oed wrth ystyried costau teithio ychwanegol.
Dywed Cyngor Gwynedd fod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi gostwng yn gyson ers 2016 "ac yn fregus ers peth amser".
Beth ddywedodd y pwyllgor craffu?
Am fod gan yr ysgol gyn lleied o ddisgyblion, mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu proses o gyflymu'r ymgynghoriad.
Ond dywedodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, sy'n cynrychioli Abersoch, fod gan yr awdurdod gyfrifoldeb i drin Ysgol Abersoch fel unrhyw un arall.
"Byddai cau'r ysgol yn cael effaith ofnadwy ar Gymreictod Abersoch ac yn golygu y byddai plant yn colli cysylltiad allweddol gyda'u cymuned," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn ofni na fyddai cynnal cyfarfodydd cyhoeddus cyson yn rhwystro pobl leol rhag dweud eu dweud.
Dywedodd Eifiona Wood, o fwrdd llywodraethwyr yr ysgol, y dylai'r Cylch Meithrin gael amser i sefydlu ei hun yno cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Pleidleisiodd y pwyllgor o blaid anfon y mater yn ôl i'r cabinet i ailystyried, a hynny fel gwelliant i gynnig gwreiddiol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i basio'r mater i'r cyngor llawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020