Ehangu cynllun i gefnogi swyddi dan gyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae Canghellor y DU wedi cyhoeddi mwy o gefnogaeth i fusnesau sydd wedi'u gorfodi i gau yn sgil cyfyngiadau coronafeirws - gan gynnwys rhai yng Nghymru.
Bydd Cynllun Cymorth Swyddi (JSS) y llywodraeth yn cael ei ehangu i gefnogi busnesau sydd, neu fydd yn gorfod cau eu drysau o ganlyniad i gyfyngiadau lleol neu genedlaethol llymach.
Bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau cymwys trwy dalu dwy ran o dair o gyflog pob gweithiwr (neu 67%), hyd at uchafswm o £2,100 y mis.
Dywed Rishi Sunak y bydd hyn yn amddiffyn swyddi a galluogi busnesau i ailagor yn gyflym unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi.
Bydd y cynllun yn dechrau ar 1 Tachwedd ac ar gael am chwe mis, gydag adolygiad ym mis Ionawr.
Yn ogystal, cyhoeddodd Mr Sunak y byddai'r gwledydd datganoledig yn cael £1.3bn yn ychwanegol i'w buddsoddiad am 2020-21.
Yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, roedd Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau bod unrhyw gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau newydd ar gael i fusnesau Cymru hefyd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y gynhadledd: "Roedden ni'n trafod gyda'r Trysorlys ddoe er mwyn sicrhau os oes arian yn cael ei roi i gefnogi busnesau yn Lloegr, yna mae'n rhaid i arian fod ar gael i gefnogi bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn ogystal."
Ond ychwanegodd Mr Drakeford ei fod "eto i glywed gan y Trysorlys" ynglŷn â sut y byddai unrhyw gefnogaeth yn cael ei basio ymlaen i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020