'Bywyd fel cyfnod clo bob dydd wedi degawdau o drais'
- Cyhoeddwyd
Mae byw yn y system amddiffyn tystion fel bod mewn cyfnod clo bob dydd o'i bywyd, yn ôl dynes gafodd ei cham-drin gan ei gwr am 20 mlynedd.
Mae bywyd ynysig a llai o gysylltiad gyda theulu a ffrindiau wedi bod yn angenrheidiol yn ystod y pandemig, ond i rai dyna yw realiti bywyd.
Mae'r BBC wedi cael mynediad prin iawn i unigolyn o fewn gwasanaeth sy'n rhoi dechrau newydd i bobl sydd ei angen - y UK Protected Persons Service (UKPPS).
Dyma stori Sian, nid ei henw iawn, a symudodd gyda'i phlant i ddechrau bywyd newydd ar ôl dioddef blynyddoedd o gamdriniaeth.
"Dechreuodd gyda thrais rhywiol", meddai Sian, wnaeth gyfarfod ei gŵr pan yn ei harddegau.
"Ond yna daeth y trais corfforol. O fewn tair wythnos mi wnaeth o fy nhreisio i. Ar ôl hynny daeth dau ddegawd o drais domestig."
Ar ôl un digwyddiad treisgar ofnadwy, aeth Sian i gael cymorth meddygol - wnaeth arwain at ymyrraeth gan awdurdodau eraill.
Penderfynodd yr heddlu bod y perygl i'w bywyd mor ddifrifol bod angen iddi gael cymorth UKPPS.
Newidiodd bywyd ar unwaith, ac fe gafodd Sian a'i phlant eu cludo i ran arall o'r DU gydag enwau newydd.
'Normal i ni, ond neb arall'
"Mae wastad rhyw atgof o be' sy' wedi digwydd a lle ydyn ni, a bydd hynny byth yn gadael ni.
"Daeth ein hen fywyd i ben ac mae'r bywyd newydd wedi dechrau. 'Da chi'n byw yn 'normal', sy'n normal i ni ond ddim i bawb arall."
Yn ogystal â phobl fel Sian, mae'r UKPPS yn helpu tystion i droseddau difrifol.
Mae'r rhwydwaith o unedau heddlu dan arweiniad yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol hefyd yn helpu dioddefwyr trais a phobl sydd wedi bod yn rhan o ymchwilio i droseddau difrifol.
Ychydig iawn o bobl sy'n gwybod am gyfrinach Sian: "Heblaw am y rhai sy'n delio hefo fy achos, mae llai na 10 mae'n siŵr.
"Ond alla i ddim dweud bod unrhyw un allan yna dwi'n ymddiried ynddyn nhw'n llwyr."
Mae plant Sian hefyd wedi gorfod dysgu addasu yn eu sefyllfa newydd, gan y gallai rhywbeth mor syml â llun ar wefan gymdeithasol ddatgelu gwybodaeth amdanynt.
"Mae'n rhan o fywyd dyddiol i ni. 'Da ni'n gwylio drwy'r amser fel bod ni ddim yn cael ein dal yn hynny, ac yn amlwg mae wedi golygu bod y plant methu mynd i'r prom, wedi methu gwneud pethau arferol fyddai'n rhan o fywyd i blentyn.
"Dydyn nhw methu mynd i seremonïau ysgol, dydyn nhw methu ymuno hefo clybiau chwaraeon, achos mae rhieni'n cymryd fideos.
"Dydy'r plant ddim yn cael bod ar wefannau cymdeithasol ac mae hynny'n anodd achos mae'n gwneud iddyn nhw sefyll allan - mae pob plentyn, pob un ffrind - ar gyfryngau cymdeithasol a'r eiliad dydy plentyn ddim, maen nhw'n wahanol."
Ôl-fflachiadau, hunllefau a phanig
Mae 'na fesurau diogelwch mewn lle i'r teulu, ond mae byw bywyd ynysig wedi bod yn anodd, a'r Nadolig yw'r cyfnod anoddaf, meddai Sian.
Ond wrth i bawb orfod addasu eu ffordd o fyw yn sgil pandemig Covid-19, dywedodd ei bod wedi gweld tebygrwydd gyda'i bywyd arferol.
"Am unwaith o'n i'n eitha' diolchgar bod bywyd ddim yn teimlo mor wahanol i ni, a doedd hi ddim yn anodd i ni arfer hefo'r bywyd newydd gan ein bod ni wedi arfer yn barod.
"Mae byw yn y gwasanaeth amddiffyn tystion yn debyg mewn ffordd i'r ynysu llwyr roedd rhaid i bawb brofi yn y cyfnod clo."
Mae Sian yn dal i ddioddef gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), gorbryder ac iselder yn dilyn ei phrofiadau. Mae hi'n cael ôl-fflachiadau, hunllefau a phyliau o banig.
Fe wnaeth hi geisio lladd ei hun pan oedd hi ar ei hisaf, ac mae'n dweud ei bod yn teimlo'n euog am beidio gallu rhoi bywyd "normal" i'w phlant.
"Dwi'n canolbwyntio gymaint ar y plant, a trio gwneud bywyd yn well iddyn nhw.
"Maen nhw mor gefnogol, cefnogol iawn yn beth bynnag dwi'n dewis ei wneud."
Ond dywedodd bod ond un ffordd i'r teulu ddianc o'r sefyllfa.
"Pan mae fy ngŵr yn marw. Tan y diwrnod yna, byddwn ni fel hyn."
Os ydych chi wedi eich effeithio gan drais domestig neu unrhyw un o'r materion yn y stori yma, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020