'Dim digon o ymwybyddiaeth' o drais domestig LHDT
- Cyhoeddwyd
Does dim digon o ymwybyddiaeth o effaith trais yn y cartref ar bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a trans (LHDT), yn ôl menyw sydd wedi siarad â BBC Cymru am ei phrofiad.
Dywedodd Hannah - nid ei henw go iawn - sydd wedi profi trais domestig o fewn perthynas un rhyw: "Dydw i ddim yn meddwl bod digon o ymwybyddiaeth yn erbyn LGBTQ domestic abuse yn y gymuned o gwbl."
Mae gwasanaethau sy'n cynorthwyo goroeswyr trais yn y cartref LHDT yn cytuno.
Dywedodd Leni Morris, prif gyfarwyddwr elusen Galop - sy'n cynorthwyo pobl LHDT sydd wedi dioddef trais domestig ar draws Prydain: "Dylai a gallai mwy cael ei wneud i sicrhau bod pobl LHDT+ yn gallu adnabod trais yn y cartref os ydy e'n digwydd iddyn nhw.
"Mae goroeswyr LHDT+, yn enwedig y rheiny sy'n hoyw, deurywiol, trans, neu o gefndir BME, yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau LHDT+ yn hytrach na gwasanaethau eraill trais yn y cartref.
"Er hyn, dydy gwasanaethau arbenigol LHDT+ gan fwyaf ddim ar gael o fewn nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr a Chymru."
Dywedodd Hannah ei bod hi wedi profi trais mewn perthynas un rhyw gyda menyw arall.
"Approximately rhyw 12 mis yn ôl ges i fy ngham-drin yn fy nghartref gan fy mhartner, sydd yn hoyw," meddai.
"Oedd ochr chwith yng nghorff i, o dop yn ysgwydd i reit i lawr i waelod yn nhroed i, yn severely bruised.
"Adeg yma blwyddyn diwethaf o'n i ddim yn gallu mynd allan. O'n i ddim yn gallu gwisgo fest na siorts. O'n i'n gaeth i'r tŷ achos o'n i methu gwisgo be' o'n i eisiau gwisgo achos o'dd gyda fi gormod o gywilydd wrth ddod i dermau hefo'r ffaith bo' fi yn domestic abuse victim a beth oedd wedi digwydd i fi."
Mae Hannah yn teimlo ei bod wedi'i gadael lawr wrth chwilio am gymorth.
"Cyn i fi gael cwnsela, o'n i ar restr disgwyl, a nes i droi i lawr y ffordd anghywir, gan yfed yn drwm. O'dd e ddim y ffordd iawn i ddelio [â phethau]," meddai.
"Nes i bron iawn cymryd bywyd fy hun."
Mae Hannah yn gobeithio bydd rhannu ei phrofiad yn helpu pobl eraill, ac erbyn hyn, mae hi hefyd yn edrych tuag at y dyfodol.
"Dwi'n barod rŵan i roi fy hun allan yna eto a falle dechrau dêtio eto," ychwanegodd.
Yn ôl Galop, cysylltodd 5,000 o bobl â'u llinell gymorth y flwyddyn ddiwethaf, ac maen nhw'n dweud bod 'naid fawr' wedi bod yn y nifer o bobl sy'n galw'r linell gymorth eleni.
Mae ymchwil gan elusen Stonewall yn dangos bod pobl LHDT yn fwy tebygol o brofi trais yn y cartref, o gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol, gydag un ym mhob pum person LHDT wedi profi trais domestig yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r ffigyrau yma'n dyblu ar gyfer pobl traws a menywod deurywiol.
Yn ôl Iestyn Wyn, rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Stonewall Cymru, dyw bobl LHDT sydd wedi profi trais domestig ddim wastad yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Dywedodd: "Mae'n wir i ddweud bod yna ddiffyg gwelededd a chydnabyddiaeth o'r broblem... ond hefyd mae yna ddiffyg cydnabyddiaeth o'r angen am wasanaethau sydd yn gynhwysol o gyplau o'r un rhyw a phobl traws, er enghraifft."
'Angen ymateb yn well'
Mae Rhian Bowen-Davies, ymgynghorydd annibynnol ym maes trais yn y cartref, yn meddwl bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref a'i effaith ar bobl LHDT o fewn y gymdeithas yn ehangach.
Dywedodd: "Dwi'n credu fod diffyg ymwybyddiaeth ddim yn unig o ran gwasanaethau statudol ac anstatudol, ond hefyd o ran cymdeithas hefyd.
"O ran gwasanaethau statudol, dwi'n credu bod ni'n colli cyfleoedd i adnabod unigolion sy'n dioddef, goroesi, neu yn cyflawni trais yn y cartref o fewn perthnasau LGBT.
"Ac mae lot o waith yn gallu cael ei wneud o ran codi'r ymwybyddiaeth yna, naill ai trwy hyfforddiant, a hynny gyda gwasanaethau arbenigol, fel bod pobl broffesiynol yn deall ac yn codi dealltwriaeth nhw o ran beth yw profiadau pobl LGBT o ran trais yn y cartref, ond hefyd beth yw'r gwahaniaethau a beth sy'n unigryw o ran y perthnasau yna."
Mae elusen Cymorth Menywod Cymru yn rhedeg hyfforddiant 'ask me' er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref a thrais rhywiol o fewn cymunedau gwahanol.
Dywedodd Gwendolyn Sterk, pennaeth materion cyhoeddus a chyfathrebu Cymorth Menywod Cymru: "Dengys ein hystadegau diweddaraf ar gyfer 2019/20 bod 95% o'r rheiny sy'n cam-drin yn ddynion, a 5% yn fenywod.
"Er hyn, fel cymdeithas rhaid i ni wella sut rydyn ni'n trafod ac ymateb i drais domestig a thrais rhywiol o fewn cymunedau LHDT+."
'Hyfforddiant yn angenrheidiol'
Dywedodd Michelle Pooley, prif gyfarwyddwr Gwasanaeth Trais Domestig Gorllewin Cymru: "Mae Gwasanaeth Trais Domestig Gorllewin Cymru wedi ac yn mynd i redeg hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol am bobl LHDT a sut gallwn brofi trais yn y cartref.
"Mae'r hyfforddiant yn angenrheidiol, gan fod nifer o wasanaethau sy'n gweithio ar drais yn y cartref gan fwyaf yn meddwl am bobl heterorywaidd o fewn perthnasau heterorywiol."
Ychwanegodd: "Weithiau, dydyn nhw ddim wedi gweithio gydag unigolion mewn perthnasau lesbiaidd neu hoyw, felly mae'n bwysig i feddwl am sut all rhwystrau effeithio ar bobl LHDT wrth edrych ymlaen."
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chymorth ar wefannau BBC Action Line a Galop, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020