Prifysgol am 'drosglwyddo swyddogaethau' Canolfan Bedwyr

  • Cyhoeddwyd
Canolfan BedwyrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Bedwyr wedi'i leoli yn Neuadd Dyfrdwy ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau bod cynnig ar y gweill i "drosglwyddo rhai o swyddogaethau" Canolfan Bedwyr i rannau eraill o'r brifysgol.

Yn ôl y sefydliad, bwriad yr argymhelliad ydy "ehangu capasiti ymchwil" a "gwreiddio'r Gymraeg".

Er hyn mae BBC Cymru wedi siarad gyda nifer sy'n ymwneud â'r ganolfan sy'n poeni y gallai'r newidiadau sy'n cael eu cynnig cael effaith negyddol ar statws a gwaith y ganolfan.

Mae Canolfan Bedwyr yn ganolfan ieithyddol sy'n llunio polisïau ieithyddol a strategaethau i ddatblygu'r brifysgol a sefydliadau allanol.

Cadarnhaodd y brifysgol nad oes bwriad i gau Canolfan Bedwyr yn gyfan gwbl.

Swyddi'r brifysgol dan fygythiad

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod hyd at 200 o swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'r brifysgol wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud arbedion o £13m "yn dilyn cwymp mewn incwm, yn gysylltiedig yn bennaf gyda recriwtio myfyrwyr tramor".

Yn ôl undebau llafur, mae 120 o swyddi staff cynorthwyol ac 80 o swyddi academaidd mewn perygl.

Ffynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Bangor yn mynnu nad oes cynlluniau i gau Canolfan Bedwyr

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda nifer o unigolion sydd wedi lleisio pryderon bod argymhelliad Prifysgol Bangor i drosglwyddo rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr yn gam gwag ar y sefydliad.

Yn ôl un unigolyn mi fyddai'r newidiadau "yn chwalu'r ganolfan".

Ar ei chyfrif Twitter fe alwodd yr Aelod o'r Senedd, Siân Gwenllian ar Brifysgol Bangor i fod yn wyliadwrus wrth wneud toriadau ac arbedion gan gwestiynu "a oes bwriad i chwalu Canolfan Bedwyr?"

Mae BBC Cymru ar ddeall y gallai adrannau Gloywi Iaith, Technoleg Iaith ac Adran Safonau adael adain Canolfan Bedwyr a dod dan faner Gwasanaethau Academaidd a Chorfforaethol y brifysgol.

Yn ôl un fuodd yn siarad â BBC Cymru mae'n rhaid gofyn "os ydych yn symud yr adrannau i gyd ond yn cadw'r ganolfan - beth yw pwrpas y ganolfan?"

'Canolfan Bedwyr yn parhau'n alweddol'

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Bangor fod "y Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth strategol Prifysgol Bangor" a "nid oes cynlluniau i gau Canolfan Bedwyr".

Ychwanegodd fod "cynnig i drosglwyddo rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr i'r Gwasanaethau Corfforaethol".

"Mae argymhelliad hefyd i symud rhai o weithgareddau'r ganolfan i'r maes academaidd er mwyn ehangu capasiti ymchwil a datblygu ymhellach," meddai'r brifysgol.

"Bydd Canolfan Bedwyr yn parhau i chwarae rhan strategol allweddol wrth ddatblygu'r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor."