Pro14: Glasgow 20 - 7 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Wedi colli yn erbyn Munster yr wythnos diwethaf roedd Y Scarlets wedi gobeithio am fuddugoliaeth nos Sul er eu bod yn chwarae oddi cartref yn erbyn Glasgow ond nid felly y bu.
Y tîm cartref a sgoriodd gyntaf wrth i Hastings sicrhau tri phwynt a hynny bron i hanner awr i fewn i'r gêm. Ond fe wnaeth y gic sbarduno'r Albanwyr ac o fewn dim roedd Ollie Kebble wedi croesi'r llinell ac roedd y trosiad hefyd yn llwyddiannus gan roi Glasgow 10 pwynt ar y blaen a dyna oedd y sgôr ar hanner amser.
Ddechreuodd yr ail hanner ddim yn dda i'r Scarlets wrth i Sam Lousi gael cerdyn coch ac roedd yna anaf i Blade Thomson.
Dri chwarter awr i fewn i'r gêm roedd yna gais arall i'r tîm cartref wrth i Ryan Wilson groesi ac fe sicrhaodd trosiad llwyddiannus arall bod Glasgow 17 pwynt ar y blaen. Wedi i sgrym saith dyn y Scarlets gael eu cosbi roedd yna dri phwynt arall i'r Albanwyr gan ddod â'r sgôr i 20-0.
Ond cyn pen yr awr fe ddaeth cais i Samson Lee a hynny ar ei 150fed ymddangosiad i'r Scarlets a gan bod trosiad Halfpenny yn llwyddiannus roedd gan yr ymwelwyr o Lanelli bellach 7 pwynt.
Cyn diwedd y gêm roedd yna dacl lwyddiannus gan Steff Evans i atal mwy o geisiadau i'r Albanwyr ac roedd yna dân ym moliau'r Scarlets erbyn hyn.
Ond er iddynt frwydro'n galed ac er bod yna gardiau melyn i Glasgow doedd yna ddim sgôr pellach er bod Steff Evans yn agos iawn i groesi'r llinell.
Y sgôr terfynol Glasgow 20, Scarlets 7 sy'n golygu mai dim ond dwy gêm oddi cartref allan o'r 16 ddiwethaf y mae'r Scarlets wedi'u hennill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020