Nwy chwerthin 'ddim yn ychydig o hwyl ddiniwed'

  • Cyhoeddwyd
Nwy chwerthinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin, yn hawdd i'w ganfod yn cael ei werthu ar-lein

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhybuddio nad "ychydig o hwyl ddiniwed" ydy nwy chwerthin, a gall achosi parlys.

Ocsid nitraidd ydy'r ail gyffur mwyaf poblogaidd ymysg pobl 16-24 oed yn y DU, tu ôl i ganabis.

Ond yn ôl Dr Frank Atherton fe all y canlyniadau fod yn "enfawr".

"Weithiau yng Nghymru ry'n ni'n gweld pobl sydd wedi colli'r gallu i gerdded neu eu gallu i ddefnyddio eu breichiau neu eu coesau yn gywir," meddai.

Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu ocsid nitraidd ar gyfer rhesymau hamdden, mae'n gyfreithlon i'w werthu ar gyfer defnydd meddygol neu arlwyo, ac mae'n hawdd i'w ganfod yn cael ei werthu ar-lein.

Pryder am anwybodaeth

Dywedodd prif wyddonydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, yr Athro Gino Martini: "Ry'n ni'n credu mai'r hyn sy'n digwydd gyda defnydd cronig o ocsid nitraidd ydy ei fod yn eich atal rhag amsugno fitamin B12.

"Mae fitamin B12 yn bwysig iawn. Os oes gennych chi ddiffyg fe allai achosi niwed i'r asgwrn cefn.

"Dyma pam ry'n ni'n gweld pobl yn cael problemau gyda cherdded, neu hyd yn oed barlys mewn rhai achosion."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Frank Atherton y gall y canlyniadau o ddefnyddio nwy chwerthin fod yn "enfawr"

Mae Dr Atherton yn bryderus nad ydy pobl ifanc yn gwybod digon am y peryglon sy'n gysylltiedig â'r cyffur.

"Yr her yw cael y wybodaeth i bobl er mwyn eu helpu nhw i ddeall nad yw'n ychydig o hwyl ddiniwed - mae canlyniadau difrifol yn bosib, yn enwedig i'r rheiny sy'n ei ddefnyddio'n gyson," meddai wrth raglen Eye on Wales.

"Hyd yn oed os ydych chi'n cael dim ond un achos o barlys, mae cost hynny i gymdeithas, ac yn enwedig y gost bersonol i'r unigolyn, yn enfawr."

Bydd Eye on Wales yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales am 18:30 ddydd Mercher, ac ar gael wedi hynny ar BBC Sounds.