Achos Emiliano Sala: Dyn yn wynebu cyhuddiadau

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn y digwyddiad ar 29 Ionawr 2019

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys mewn cysylltiad â'r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson.

Fe blymiodd yr awyren Piper Malibu i Fôr Udd ym mis Ionawr y llynedd wrth gludo'r ymosodwr 28 oed o Nantes yn Ffrainc i'w glwb newydd, Caerdydd.

Mewn gwrandawiad cyn cwest yn Llys Crwner Bournemouth ddydd Iau, dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) fod David Henderson wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Medi wedi ei gyhuddo o droseddau dan y Gorchymyn Llywio Yn Yr Awyr.

Plediodd Mr Henderson, peilot ar log a brocer awyrennau, yn ddieuog i'r troseddau, ac fe gafodd yr achos ei gyfeirio i Lys Y Goron Caerdydd gyda'r disgwyl y bydd gwrandawiad ar 26 Hydref.

Ffynhonnell y llun, PA/AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren Piper Malibu a oedd yn y ddamwain

Honnir fod Mr Henderson, o Efrog, wedi trefnu hediad yr awyren un injan, a gollodd cysylltiad gyda rheolwyr traffig awyr i'r gogledd o Guernsey.

Dywedodd Keith Morton QC ar ran y CAA wrth y gwrandawiad fod Mr Henderson wedi'i gyhuddo o ymddygiad diofal neu esgeulus oedd yn debygol o beryglu hediadau, gan gynnwys yr hediad angheuol.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o gynnig gwasanaeth masnachol gyda'r awyren heb fod â'r caniatâd cywir.

Does dim disgwyl i'r achos llawn gael ei gynnal cyn 2022.

Dywedodd Mr Morton fod ymchwiliad y CAA yn parhau o ran "materion heb gysylltiad â'r digwyddiad yma".

Cafwyd hyd i gorff Mr Sala o weddillion yr awyren ar wely'r môr fis Chwefror y llynedd, ond ni chafwyd hyd i gorff Mr Ibbotson, oedd yn 59 oed ac o Sir Lincoln.

Ffynhonnell y llun, AAIB/PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren ar waelod Môr Udd

Roedd disgwyl i'r cwest llawn gael ei gynnal ym Mawrth 2021, ond dywedodd Uwch Grwner Dorset, Rachael Griffin, bod rhaid ei ohirio tan ddiwedd achos Mr Henderson.

Yn y cyfamser mae gwrandawiadau cyn cwest pellach wedi'u pennu i'w cynnal ar 15 Rhagfyr a 10 Mawrth 2021.

Ymunodd cynrychiolwyr cyfreithiol teulu Mr Sala a gweddw Mr Ibbotson â'r gwrandawiad trwy'r we.

Byddai'r oedi cyn cynnal cwest llawn, meddai Matthew Reeve ar ran y teulu Sala yn "ergyd ddifrifol" iddyn nhw.

Dywedodd Mrs Griffin: "Mae gofyn imi gadarnhau holl ffeithiau amgylchiadau marwolaeth Emiliano. 

"Bydd hynny'n cael eu dyfarnu gan reithgor ac mae angen dealltwriaeth glir ynghylch pob agwedd o'r amgylchiadau.

"Er lles cyfiawnder, mae'n bwysig i aros am ganlyniad yr erlyniad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo cytundeb i ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd

Ychwanegodd y byddai'r pandemig yn gwneud cynnal cwest mor hir yn amhosib fis Mawrth nesaf.

Dywedodd adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyren ym mis Mawrth fod Mr Ibbotson wedi colli rheolaeth o'r awyren wrth geisio osgoi cymylau.

Daethon nhw i'r casgliad nad oedd ganddo drwydded i hedfan yr awyren.

Roedd hefyd yn debygol fod Mr Sala yn anymwybodol pan blymiodd yr awyren o ganlyniad anadlu carbon monocsid oedd yn gollwng i'r caban, a fyddai hefyd wedi effeithio ar y peilot.