Cyhoeddi canfyddiadau damwain awyren laddodd Sala ac Ibbotson

  • Cyhoeddwyd
Tu allan i stadiwm CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau gan gefnogwyr i Sala y tu allan i stadiwm Caerdydd

Bydd canfyddiadau'r ymchwiliad i farwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala a pheilot awyren yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Fe blymiodd Piper Malibu - oedd yn cludo Sala, 28, i Gaerdydd - i'r Sianel ger Guernsey ar 21 Ionawr 2019.

Cafodd corff y pêl-droediwr ei godi o weddillion yr awyren fis Chwefror y llynedd.

Ond nid yw corff y peilot - David Ibbotson, 59 oed o Sir Lincoln - wedi ei ddarganfod.

Dyma fydd adroddiad terfynol y gangen ymchwilio damweiniau awyr (AAIB) i'r ddamwain.

Ym mis Awst, fe wnaeth yr AAIB ddatgelu bod profion ar gorff Sala wedi dod o hyd i lefelau marwol o garbon monocsid yn ei waed.

Roedd digon o'r nwy yn ei waed i fod wedi achosi trawiad ar y galon neu iddo fynd yn anymwybodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a David Ibbotson wedi i'w hawyren blymio i Fôr Udd y llynedd

Casgliad yr archwilwyr ar y pryd oedd y byddai Mr Ibbotson hefyd wedi cael ei effeithio gan y nwy.

Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol ddod i'r casgliad pam a sut blymiodd yr awyren i'r môr.

Bydd hefyd yn taflu goleuni ar funudau olaf y daith a sut oedd carbon monocsid wedi gollwng i'r caban yr awyren.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Heddlu Dorset nad oedden nhw'n bwriadu cymryd camau pellach yn erbyn dyn 64 oed mewn cysylltiad â'r ddamwain.

Roedd y gŵr o Sir Gogledd Efrog wedi cael ei arestio ym mis Mehefin 2019 ar amheuaeth o ddynladdiad.

Ffynhonnell y llun, PA/AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren Piper Malibu a oedd yn y ddamwain

Mae'r crwner yn Dorset a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) hefyd yn ymchwilio i'r ddamwain.

Mae disgwyl adolygiad cyn y cwest gael ei gynnal yn llys y crwner Bournemouth ddydd Llun, 16 Mawrth.

Parhau mae'r anghydfod rhwng Clwb Pêl-droed Caerdydd ac FC Nantes ynglŷn â'r ffi drosglwyddo o £15m am Emiliano Sala.

Mae'r Adar Gleision wedi gwrthod talu'r ffi, gan honni nad oedd yr ymosodwr yn un o'u chwaraewyr nhw yn swyddogol ar adeg y ddamwain.

Mae disgwyl i'r Llys Cyflafareddu Chwaraeon yn y Swistir benderfynu yn yr haf a ddylai Caerdydd dalu y rhan gyntaf o'r ffi - £5.3m - i Nantes fel y gorchmynnodd FIFA ym mis Medi.