Ychwanegu'r Eidal at restr cwarantîn Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eidal, Gwladwriaeth Dinas Y Fatican a San Marino yn cael eu hychwanegu at reolau teithio cwarantîn Cymru.
Mae'n golygu bod yn rhaid i bobl sy'n dychwelyd i Gymru o'r tair gwlad dreulio cyfnod o 14 diwrnod dan gwarantîn ar ôl cyrraedd yma.
Ond bydd dim disgwyl i bobl hunan ynysu mwyach wrth deithio'n ôl i Gymru o'r ynys Roegaidd, Creta.
Bydd y gorchymyn yn dod i rym am 04:00 ddydd Sul 18 Hydref.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod y newidiadau'n dilyn adolygiad o asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ychwanegu'r gwledydd at ei rhestr cwarantîn ar gyfer Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020