'Bron yn ddall' wrth aros misoedd am lawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Terry Thomas a June Lavelle-LepsaFfynhonnell y llun, Terry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Terry Thomas yn gallu darllen meddyginiaeth ei bartner oherwydd ei gyflwr

Mae dyn sydd bellach bron yn gwbl ddall am ei fod wedi gorfod aros amser hir am lawdriniaeth syml ar ei lygad, yn dweud nad yw'n gallu edrych ar ôl ei bartner sy'n ddifrifol wael oherwydd y sefyllfa.

Collodd Terry Thomas, 72 oed, o Borthaethwy, ei olwg yn ei lygad dde pan oedd yn 21 oed.

Dwy flynedd a hanner yn ôl clywodd ei fod angen triniaeth i gael gwared ar gataract yn ei lygad chwith.

Ac yntau wedi aros 18 mis am ddyddiad, cafodd y driniaeth - sydd ond yn cymryd 20 munud - ei ganslo ar y diwrnod yr oedd fod i'w dderbyn.

Cafodd yr apwyntiad ei aildrefnu ar gyfer 23 Mawrth - diwrnod dechrau'r cyfnod clo yn y DU oherwydd Covid-19 - ac felly cafodd ei ganslo eto ar y diwrnod.

Ers hynny mae Mr Thomas wedi bod yn gofalu am ei bartner, June Lavelle-Lepsa, ar ôl iddi gael cadarnhad ei bod yn dioddef o glefyd Motor Neurone.

Angen triniaeth ar frys

Mae ei chyflwr wedi dirywio'n gyflym, ac mae hi bellach mewn cadair olwyn ac yn methu siarad.

Dywed bod ei feddyg teulu wedi cysylltu â'r adran drin llygaid i bwysleisio bod angen y driniaeth ar frys, ac mae Mr Thomas hefyd wedi bod i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i egluro'r sefyllfa'n bersonol.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymddiheuro am ganslo'r driniaeth, ond bod rhai gwasanaethau wedi cael eu heffeithio gan y pandemig.

"Mae'n ofnadwy o anodd," meddai Mr Thomas, sy'n gyn-ddarlithydd mewn Economi Coedwigoedd.

"Fedra' i ddim darllen unrhyw beth. Fi sy'n gyfrifol am roi ei meddyginiaeth iddi hi, a dwi wedi rhoi'r feddyginiaeth anghywir ddwy waith am nad ydw i'n gallu gweld yn iawn."

'Di-glem, cwbl ddi-glem'

Ers ei diagnosis, roedd ei bartner wedi derbyn gofal "ffantastig" gan y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, ac mae'r cwpl wedi cael pob math o gyfarpar i wneud bywyd yn haws, megis gosod ramp a chanllawiau yn eu cartref.

Ond mae Mr Thomas yn disgrifio'r gofal y mae o wedi'i dderbyn fel "di-glem, cwbl ddi-glem".

"Mae'n fy ngwneud i'n flin, ac yn hynod, hynod siomedig," meddai.

Terry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Terry Thomas wedi bod i'r ysbyty i geisio cael eglurhad am yr oedi

Dywed Mr Thomas fod yr ymgynghorydd oedd i fod i gyflawni'r driniaeth bellach wedi gadael.

Pan aeth i Ysbyty Gwynedd i holi pam nad oedd wedi cael y driniaeth, ymddiheurodd y staff iddo, ond gan bod y person oedd i fod i wneud y llawdriniaeth wedi gadael, dywedwyd wrtho: "Nid yw eich ymgynghorydd yn gweithio yma mwyach, a fedran ni ddim dod o hyd i neb i wneud y driniaeth."

Wrth i iechyd ei bartner ddirywio ymhellach, dywed Mr Thomas fod mwy o frys nag erioed i dynnu'r cataract.

"Mae'n gwneud pob dydd cymaint yn anoddach, a chymaint yn fwy rhwystredig iddi hi."

Ymateb y Bwrdd Iechyd

Dywedodd Dr Arpan Guha, Cyfarwyddwr Meddygol dros dro y bwrdd iechyd: "Rydym yn ymddiheuro i Mr Thomas am yr oedi i'w lawdriniaeth.

"Rydym yn deall fod hyn yn amser gofidus i'n cleifion sy'n gorfod aros yn hirach na'r disgwyl oherwydd effaith y pandemig Covid-19.

"Mae Covid-19 wedi amharu ar ein gwasanaethau ac rydym yn gweithio'n galed i flaenoriaethu ein rhestrau aros fel ein bod yn gallu cynnig triniaeth i gleifion. Yn anffodus, bydd rhai cleifion yn wynebu aros amseroedd hirach am eu triniaeth.

"Rydym yn annog Mr Thomas i gysylltu'n uniongyrchol hefo ni fel y medrwn drafod ei bryderon."