Dyn busnes fu farw yn 'arwain tri bywyd gwahanol'

  • Cyhoeddwyd
Gary WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd marwolaeth Gary Williams ei drin fel llofruddieth i ddechrau

Mae cwest wedi clywed bod dyn busnes gafodd ei ganfod wedi'i drywanu i farwolaeth wedi bod yn arwain tri bywyd gwahanol.

Cafodd cyrff Gary Williams, 58, a Jessena Sheridan, 46, eu darganfod mewn tŷ yn Llanelli ar 29 Rhagfyr 2019.

Clywodd y cwest i'w marwolaethau bod Mr Williams, oedd yn briod, hefyd wedi bod yn cael perthynas â Ms Sheridan am bum mlynedd, a'i fod wedi bod mewn perthynas gyda dynes arall o'r dref am bron i 30 mlynedd.

Penderfynodd y crwner mai achos marwolaeth Mr Williams oedd sawl anaf o ganlyniad i drywanu, a'i fod yn weithred o ddynladdiad.

Bu farw Ms Sheridan o ganlyniad i anaf i'w garddwn chwith a'i phen-elin ac o "wenwyndra aml-gyffur".

Tair perthynas wahanol

Clywodd y cwest bod Mr Williams wedi'i weld ddiwethaf gan ei wraig Elaine ar 24 Rhagfyr.

Roedd wedi bod yn gofalu am ddau o'i wyrion yn ei gartref yn Nhregŵyr, Abertawe, cyn iddo adael y prynhawn hwnnw gan ddweud bod yn rhaid iddo fynd i Sir Efrog ar fater busnes.

Ond dywedodd y byddai'n ôl yn oriau mân y bore erbyn y Nadolig.

Fe wnaeth ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i farwolaeth Mr Williams ganfod ei fod wedi bod mewn perthynas gyda dynes yn ardal Llanelli ers 1991 a gyda Ms Sheridan ers 2014, heb i'w wraig wybod.

'Achos trasig ac anodd'

Cafodd Mr Williams ei ganfod yn farw mewn tŷ yn y dref gydag anafiadau trywanu i'w wddf, i'w frest a'i stumog, ac anafiadau ar ei arddyrnau oedd yn awgrymu ei fod wedi ceisio amddiffyn ei hun.

Clywodd y cwest ei bod yn ymddangos bod yr anafiadau i gorff Ms Sheridan wedi eu achosi ganddi hi ei hun.

Yn ôl y cwest roedd Ms Sheridan yn credu ei bod mewn perthynas sefydlog â Mr Williams, a arhosodd gyda hi sawl noson yr wythnos.

Cafodd y fam i bedwar o Lanelli ei disgrifio gan y crwner fel "unigolyn cythryblus" sydd wedi "profi llawer o ddigwyddiadau trawmatig yn ei bywyd ac o oedran ifanc" gan gynnwys pryderon am ei hiechyd meddwl yn ei phlentyndod cynnar.

Roedd Ms Sheridan wedi mynd trwy ysgariad ac wedi colli ei mab 13 oed yn 2004 yn dilyn damwain beic.

Yn ystod y misoedd yn arwain at ei marwolaeth, roedd wedi ceisio a derbyn cymorth gwasanaethau iechyd meddwl yn Sir Gaerfyrddin, lle mynegodd bryder ynghylch ei pherthynas yn dod i ben ond heb roi unrhyw arwydd ei bod yn bwriadu cymryd ei bywyd ei hun.

Cafwyd hyd i gyrff Mr Williams a Ms Sheridan ar 29 Rhagfyr yn dilyn pryderon a godwyd gan ei theulu a glywodd ganddi ddiwethaf ar 25 Rhagfyr.

Dywedodd y crwner ei fod yn "achos trasig ac anodd" wedi iddi ddod i'r amlwg bod Mr Williams yn "byw tri bywyd gwahanol a chymhleth" ac wedi "gallu cadw'r rheiny ar wahân yn llwyr".

Ychwanegodd mai'r gwir drychineb yw nad oes unrhyw un yn gwybod beth ddigwyddodd rhwng Mr Williams a Ms Sheridan "ar wahân i'r faith bod rhyw fath o ffrwgwd", ac na allai fod yn sicr a oedd Ms Sheridan yn bwriadu lladd Mr Williams.