Marwolaeth Llanelli: Dyn wedi ei drywanu 50 gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaethau dau o bobl gafodd eu darganfod mewn tŷ yn Llanelli ar 29 Rhagfyr.
Clywodd y cwest yn Hwlffordd fod Gary Williams, oedd yn 58 oed, wedi ei drywanu dros 50 o weithiau.
Fe gafodd swyddogion eu galw i eiddo yn Lakefield Place ychydig ar ôl 20:30 nos Sul, 29 Rhagfyr, ble cawson nhw o hyd i gorff Mr Williams o Dregŵyr, a chorff Jessena Wendy Ann Sheridan, oedd yn byw yn y tŷ.
Cafwyd hyd i gorff Jessena Sheridan ar lawr ei hystafell wely, ac roedd tystiolaeth i awgrymu ei bod wedi lladd ei hun.
Roedd adroddiad post mortem cychwynol i farwolaeth Gary Williams yn dangos ei fod wedi marw yn dilyn dioddef anafiadau trywanu i'w wddf, ei frest a'i fol.
Cafodd y cwest i'r ddau farwolaeth ei ohirio gan y crwner Mark Layton tan 28 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019