Nifer o Gymry'n symud cyn cau'r ffenest drosglwyddo
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bêl-droedwyr Cymru wedi symud clybiau ar ddiwrnod olaf ffenest drosglwyddo Cynghrair Bêl-droed Lloegr.
Roedd y ffenest eisoes wedi cau i glybiau'r Uwch Gynghrair, ond roedd clybiau'r adrannau is yn dal i fedru prynu chwaraewyr tan 16 Hydref.
Yr un mwyaf nodedig efallai oedd amddiffynnwr Abertawe a Chymru, Joe Rodon, yn symud i Tottenham Hotspur lle bydd yn ymuno gyda Ben Davies a Gareth Bale.
Credir bod y ffi oddeutu £11m amdano.
Er y bydd Harry Wilson a Ben Woodburn yn dal ar lyfrau Lerpwl, mae'r ddau wedi mynd ar fenthyg i glybiau eraill am weddill y tymor - Harry Wilson i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth a Ben Woodburn i Blackpool sy'n chwarae yn Adran Un.
Un arall sy'n mynd ar fenthyg i Adran Un yw Matt Smith - o Manchester City i Doncaster Rovers.
Ddydd Iau fe wnaeth un arall o chwaraewyr Cymru, Joe Morrell, symud ar fenthyg o Bristol City i Luton Town - y ddau yn y Bencampwriaeth ac yn gynharach yn y mis fe symudodd Chris Gunter o Reading i Charlton Athletic.
Bu'n ffenest brysur i glwb Abertawe gan iddyn nhw arwyddo dau chwaraewr ddydd Gwener - yr amddiffynnwr Joel Latibeaudiere am ddim o Manchester City, a'r chwaraewr canol cae Kasey Palmer ar fenthyg o Bristol City.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018