Caerdydd: Atal casgliadau gwastraff o'r ardd am y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff o'r arddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i drigolion fynd â'u gwastraff gwyrdd i ganolfannau ailgylchu

Mae casgliadau biniau gwyrdd yng Nghaerdydd wedi cael eu hatal am bedwar mis oherwydd y pandemig coronafeirws.

Fel arfer mae'r biniau'n cael eu casglu yn fisol bob pythefnos, ond ni fydd yn digwydd nawr tan fis Mawrth.

Dywedodd swyddogion Cyngor Caerdydd fod achosion o Covid-19 yn y ddinas ar gynnydd, ac mai'r nod felly yw sicrhau bod sbwriel cyffredinol yn cael ei gasglu ac nid yn cael ei adael ar strydoedd.

Ond mae'r newid wedi gwylltio rhai trigolion, gyda mwy na 900 yn arwyddo deiseb yn galw am ailystyried y penderfyniad.

Ni fydd y gwasanaeth biniau gwyrdd ar gael ym misoedd Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr na Chwefror.

Cynghorydd Ceidwadol Rhiwbeina, Adrian Robson, gychwynnodd y ddeiseb, a dywedodd: "Rwy'n deall y gall pethau gael eu hoedi, ond mae peidio cael un casgliad gwastraff gwyrdd yn ymddangos yn od.

"Does bosib y gallen nhw aildrefnu? Fe fyddai trigolion yn deall yn iawn pe byddai rhaid newid diwrnod casglu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Robson yn credu y bydd mwy o bobl yn garddio os o dan gyfyngiadau Covid

Casgliad mis Hydref fydd y cyfle olaf i drigolion waredu eu gwastraff o'r ardd cyn y gaeaf.

Wedi hynny fe fydd rhaid iddyn nhw fynd â'u gwastraff gwyrdd i ganolfannau ailgylchu.

Ond fe fydd gwasanaeth arbennig i gasglu hen goed Nadolig ym mis Ionawr cyn i'r casgliadau arferol ailddechrau ym mis Mawrth.

'Cyfle gorau i gadw strydoedd yn lân'

Aelod o gabinet Cyngor Caerdydd gyda chyfrifoldeb am ailgylchu yw Michael Michael.

Dywedodd: "Ry'n ni angen bod yn hyderus y gallwn barhau i waredu gwastraff cyffredinol, ailgylchu a bwyd o'n strydoedd, ac mae'r cynnydd diweddar mewn cyfraddau heintio yn y ddinas yn destun pryder.

"Mae'n cael effaith ar ein gweithlu yn barod. Ar hyn o bryd mae angen targedu ein hadnoddau at bethau nad yw unrhyw un am weld ar y strydoedd.

"Atal casgliadau gwastraff o'r ardd ar adeg o'r flwyddyn pan mae gwastraff o'r fath yn sylweddol llai yw ein cyfle gorau o sicrhau y gallwn gadw'n strydoedd yn lân wrth frwydro'r pandemig.

"Rwy'n deall fod hyn yn heriol i rai trigolion, ond rwy'n gobeithio eu bod yn deall y rhesymau pam fod rhaid i ni wneud hyn nawr."