Cynnydd yn nifer y dioddefwyr caethwasiaeth o Gymru

  • Cyhoeddwyd
DioddefwrFfynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth

Mae elusen wedi gweld cynnydd o 43% yn nifer y dioddefwyr caethwasiaeth a gafodd eu cyfeirio am gymorth arbenigol o Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fe roddodd Byddin yr Iachawdwriaeth gymorth i 106 o ddioddefwyr yn y 12 mis hyd at fis Mehefin eleni.

Ond mae ofnau bod llawer o achosion yn parhau i fod yn gudd oherwydd y cyfnod clo.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae un sy'n dioddef caethwasiaeth yn un yn ormod."

Cafodd Caerdydd ei hamlygu fel ardal "problemus" gyda 48 o achosion.

'Pryder mawr y cyfnod clo'

"Wrth i ni wynebu'r dirywiad economaidd mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni'n rhagweld y bydd y cwymp o'r pandemig yn gadael llawer mwy o bobl mewn tlodi ac mewn perygl o gael eu hecsbloetio," meddai Kathy Betteridge o'r elusen.

"Mae'r gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn ystod tri mis cyntaf y cyfnod clo [o'i gymharu â gweddill y flwyddyn] yn peri pryder mawr inni.

"Mae hyn yn awgrymu bod pobl a allai fod wedi cael eu hadnabod wedi dod yn fwy cudd fyth.

"Credwn fod llawer yn dal i fod yn byw hunllef caethwasiaeth heb wybod sut i gael help."

Ffynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr elusen fod y mwyafrif o ddioddefwyr yn iau na 40 oed

Llafur gorfodol oedd y broblem fwyaf cyffredin a restrwyd gan yr elusen rhwng Gorffennaf 2019 a Mehefin 2020.

Roedd 52 o achosion gan gynnwys pobl yn gorfod gweithio mewn bwytai, golchiadau ceir a ffatrïoedd.

Roedd 28 achos o ecsbloetio rhywiol hefyd yng Nghymru.

Dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth fod 75% yn 40 oed neu'n iau, a'u bod yn dod yn bennaf o'r DU a gwledydd Ewropeaidd eraill.

Beth ydy'r arwyddion?

Dywedodd llefarydd y gallai unrhyw un ddod i gysylltiad â dioddefwr heb sylweddoli - rhywun yn ymddangos yn anesmwyth, blêr, diffyg maeth neu anaf.

Mae arwyddion llai amlwg, meddai, fel pobl eraill yn talu am eu teithio neu'n siarad drostyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru mai blaenoriaeth yr heddlu yw amddiffyn pobl fregus.

Ychwanegodd y gellid cynnydd mewn achosion fod o achos ymwybyddiaeth gynyddol o'r broblem, sy'n "galonogol".

"Ond mae un sy'n dioddef caethwasiaeth a mathau eraill o ecsbloetio yn un yn ormod, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r drosedd wrthun hon," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.