Cyhuddo dyn o lofruddio tad-cu 54 oed yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Michael GayleFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Michael Gayle nos Wener

Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio taid a cheisio llofruddio menyw yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Wener.

Bu farw Michael Gayle, 54 oed, yn dilyn yr ymosodiad honedig mewn eiddo yn ardal Llaneirwg.

Mae dynes 50 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl y digwyddiad am tua 20:00.

Fe fydd Garvey Gayle yn ymddangos o flaen Ynadon Caerdydd dydd Llun.

Dywedodd datganiad gan y teulu fod Michael Gayle yn ddyn oedd yn "dotio ar ei bartner, Amanda a'u pedwar o blant" gan ei ddisgrifio fel "tad-cu cariadus gyda chalon garedig."

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion fforensig tu allan i gartef Michael Gayle yn Cypress Crescent