Cyfnod clo byr, llym: Beth mae'n ei olygu i mi?
- Cyhoeddwyd

Mae pobl Cymru gyfan ar fin wynebu cyfyngiadau llymach am yr eildro ers dechrau'r pandemig - y tro hwn am gyfnod byr a phenodol er mwyn arafu lledaeniad y feirws.
Rhwng 18:00 nos Wener, 23 Hydref a 00:01 fore Llun, 9 Tachwedd, bydd yn rhaid i bobl aros adref oni bai am "resymau hanfodol".
Bydd tafarndai, bwytai, campfeydd a siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn gorfod cau eto dros dro.
Ond bydd holl wasanaethau'r GIG a gwasanaethau iechyd eraill yn parhau yn ystod y cyfnod dan sylw.
Dyma ganllaw i'r hyn fydd yn bosib dan y rheolau newydd.

Pa bryd fydd hi'n bosib i adael y tŷ?

Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.
Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:
prynu bwyd;
casglu meddyginiaethau;
darparu gofal;
ymarfer corff;
mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.
Bydd yn rhaid parhau i wisgo masgiau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.
Siopau, busnesau a gwasanaethau
Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.
Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd i modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.

Bydd dim modd mynd i dafarndai, bwytai a gwestai yn ystod y cyfnod clo byr
Mae busnesau ble mae yna gysylltiad agos â chwsmeriaid, fel salonau trin gwallt a thriniaethau harddwch - yn gorfod cau.
Bydd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu hefyd ar gau.
Bydd addoldai ar gau oni bai am i gynnal angladdau neu seremonïau priodas a bydd yn bosib priodi neu cael seremoni partneriaeth sifil mewn swyddfa gofrestru. Ond bydd niferoedd yn cael eu cyfyngu, yn ddibynnol ar faint lleoliadau unigol, a bydd dim modd darparu bwyd wedi'r seremoni.
Gweld ffrindiau a pherthnasau
Fydd hi ddim yn bosib i gymysgu â phobl o aelwyd arall yn ystod y cyfnod clo byr.
O 18:00 ddydd Gwener, mae hynny'n golygu na fydd modd cwrdd ag eraill dan do, na chymdeithasu yn yr awyr agored - mewn parciau, er enghraifft, neu yng ngerddi pobl eraill.
Bydd dim hawl i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau Calan Gaeaf a thân gwyllt, ond bydd yna drefniadau penodol ar gyfer Sul y Cofio.
Pobl sy'n byw ar ben eu hunain

Mae pryderon wedi bod wrth i'r pandemig fynd rhagddo ynghylch pobl sy'n byw ar ben eu hunain
Dan gyfyngiadau clo lleol, roedd yn bosib i bobl sy'n byw ar ben eu hunain i gwrdd ag aelodau un aelwyd arall dan do, gan fod pryderon ynghylch eu lles wedi misoedd o fod yn ynysig.
Roedd y rheol yna'n berthnasol hefyd i rieni sengl.
O nos Gwener, bydd y rheol yn berthnasol i bawb yn y categorïau hyn ar draws Cymru, a bydd dim rhaid i bobl fod yn byw yn yr un sir ag aelodau'r aelwyd arall.
Bydd pobl yn cael ymweld ag eraill i wneud yn siŵr eu bod yn iawn, os mae pryder ynghylch cyflyrau iechyd.
Ond dydyn nhw ddim yn cael mynd i'w tai neu'u gerddi, a bydd yn rhaid gadael unrhyw nwyddau, er enghraifft, os yn siopa ar ran rhywun arall, ar garreg y drws.
Unigolion categori risg uchel
Am fisoedd roedd yna gyngor i bobl sy'n fregus oherwydd eu hoedran neu gyflyrau meddygol blaenorol, hunan-ynysu adref, am fod risg uwch iddyn nhw gael eu taro'n ddifrifol wael petaen nhw'n dal y feirws.
Does dim disgwyl iddyn nhw wneud yr un peth y tro hwn, ond mae yna gyngor i bobl siopa ar adegau mwyaf tawel y diwrnod os ydyn nhw yn y categori risg uchel.
Y gobaith yw y bydd pawb yn dilyn yn rheolau'n gyfan gwbl er mwyn lleihau'r perygl o ledu'r haint.
Cartrefi gofal ac ysbytai

Bydd modd ymweld â chartrefi gofal "dan amgylchiadau eithriadol", gan gynnwys pan fo preswylydd ar fin marw.
Ond mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chartrefi unigol benderfynu os oes modd hwyluso'r ymweliad yn ddiogel, a threfnu'n ymweliad o flaen llaw.
Bydd yna reolau tebyg yn achos ymweliadau ag ysbytai a chartrefi plant.
Ysgolion

Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ailagor yn ôl yr arfer wedi'r gwyliau hanner tymor.
Bydd adnoddau gofal plant yn parhau ar agor, a bydd perthnasau, yn cynnwys neiniau a theidiau, yn cael gofalu am blant, os nad oes dewis arall ar gael.
Yn yr ysgolion uwchradd, dim ond disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 fydd yn dychwelyd i'r dosbarth.
Bydd disgyblion sy'n sefyll arholiadau'n gallu mynd i'r ysgol i'w cwblhau, ond bydd yr holl ddisgyblion eraill yn parhau i ddysgu o adref am wythnos ychwanegol.
Prifysgolion
Bydd prifysgolion Cymru'n parhau i ddarparu cyfuniad o addysg wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dan y gorchymyn i bawb aros adref, mae disgwyl i fyfyrwyr aros yn eu llety yn y brifysgol.
Ymarfer corff a chwaraeon

Ymarfer ar hyn y prom yn Llandudno
Bydd pobl yn cael gadael eu cartrefi i ymarfer, sy'n cynnwys cerdded, rhedeg, a seiclo.
Ond dan y rheolau fydd dim modd gyrru yn y lle cyntaf er mwyn ymarfer mewn lleoliad arall, sy'n golygu bod rhaid cerdded, rhedeg neu seiclo o'ch cartref.
Bydd parciau lleol, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn parhau ar agor.
Bydd dim modd ymarfer gydag aelod o aelwyd arall a bydd campfeydd a chanolfannau hamdden am gau am 17 diwrnod.
O ran chwaraeon, fe fydd pobl chwaraeon proffesiynol yn medru parhau i chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.
Bydd gemau rygbi rhyngwladol yr hydref yn digwydd heb dorf, ac yn cael eu darlledu.
Ond bydd athletwyr elît sy'n byw a hyfforddi yng Nghymru yn methu parhau i ymarfer dros y cyfnod.
Bydd chwaraeon amatur ar bobl lefel - cystadlu ac ymarfer - yn cael eu hatal dros yr 17 diwrnod.
Teithio a mynd ar wyliau

Mae teithio'n bosib, ond dim ond am resymau "rhesymol".
Mae hynny'n cynnwys teithiau i brynu nwyddau hanfodol fel bwyd a meddyginiaeth, i gael cymorth meddygol, cael prawf coronafeirws, ac i ddarparu gofal.
Mae hefyd yn bosib i deithio i'r gwaith, os nad yw'n bosib gweithio o adref.
Bydd teithio i fynd ar wyliau yn erbyn y gyfraith. Mae hyn yn golygu na fydd gan unrhyw un yr hawl i ddod i Gymru ar wyliau dros y cyfnod clo, gan gynnwys ardaloedd yng ngweddill y DU sydd ddim o dan gyfyngiadau coronafeirws ychwanegol.
Mae'n rhaid gorchuddio'r wyneb wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
Gwerthu tŷ a thrwsio car

Mae'n bosib symud tŷ, os nad oes modd gohirio tan ar ôl y cyfnod clo byr, ond does dim modd ymweld ag eiddo a bydd swyddfeydd gwerthwyr tai ar gau.
Mae'n dal yn bosib trefnu gwaith atgyweirio eiddo os oes angen gwneud y gwaith ar frys i osgoi peryglu diogelwch.
Mae'n dal yn bosib mynd â cherbyd i'r garej i gael prawf MOT, ond mae gwersi gyrru'n dod i ben am y tro a bydd profion gyrru'n cael eu hatal dros dro.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020