Covid-19: Rhagor yn marw yn ysbyty Brenhinol Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae rhagor o bobl a gafodd Covid-19 tra yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi marw o'r haint, yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Erbyn 19 Hydref roedd 49 o bobl a gafodd coronafeirws tra'n cael triniaeth yn yr ysbyty wedi marw, ac mae nifer yr achosion positif sy'n gysylltiedig a'r clwstwr yn yr ysbyty wedi codi i 159.
Mae hynny'n gynnydd o 11 marwolaeth a phedwar achos ers 14 Hydref.
Mae gan y bwrdd iechyd fwy o gleifion coronafeirws nag ar unrhyw adeg ers i'r pandemig ddechrau, yn ôl ffigyrau GIG Cymru.
Ddydd Gwener diwethaf cafodd mwy o gleifion y bwrdd iechyd eu derbyn i'w ysbyty maes wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig a'r clwstwr.
Yn gynharach dydd Mawrth fe gadarnhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod achosion mewn ysbytai yn rhai o gymoedd y de y tu ôl i gynnydd yn nifer y marwolaethau wythnosol Covid-19 yng Nghymru.
Cafodd 37 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 9 Hydref.
Mae hyn yn gynnydd ar y 25 marwolaeth yr wythnos flaenorol.
Roedd 23 o farwolaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, gyda'r mwyafrif o'r rhain wedi bod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae ffigurau diweddaraf y ONS yn cynnwys 17 o farwolaethau mewn ysbytai yn Rhondda Cynon Taf a phump ym Merthyr Tudful.
Roedd nifer y marwolaethau mewn ysbytai yn RhCT yn ail yn unig i Lerpwl (21 marwolaeth) ledled Cymru a Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020