Diwedd pennod i ddihiryn y Cwm

  • Cyhoeddwyd

Nos Fawrth Hydref 20, gwelwyd diwedd dramatig i Pobol y Cwm. Sŵn dryll yn tanio a chorff yn cael ei daflu i'r dŵr. Roedd yr olygfa yn benllanw ar fisoedd o anghydweld rhwng dau ddihiryn y Cwm, Garry Monk a Dylan Elis.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Richard Lynch, sydd wedi bod yn chwarae Garry Monk ers dechrau'r ganrif, am ddiwedd pennod ac edrych mlaen am gyfnod newydd, er gwaetha'r ansicrwydd ym myd y celfyddydau ar hyn o bryd.

"Hyd y gwn i, mae' fy nghyfnod gyda Pobol y Cwm wedi dod i ben. Dyna terfyn y bennod ta beth," meddai Richard am yr olygfa olaf lle gwelwyd corff yn cael ei daflu i'r dŵr, a Dylan Elis (Gareth Jewell) yn syllu yn fygythiol.

"Mae 'di bod yn sbort a dwi wedi joio pob munud.

"Yn amlwg datblygu wnaeth y cymeriad, oedd e bach yn ryff yn dod mewn i'r cwm, fel oedd y teulu i gyd [daeth i Gwmderi gyda'i frawd Brandon (Nicholas McGaughey) a'i chwaer Britt (Donna Edwards)] ond fe wnaeth e ddatblygu i fod yn gymeriad cymhleth a lliwgar iawn."

Yn ddiweddar, roedd Garry yn ceisio rhoi y ddelwedd dyn drwg y tu cefn iddo, ac roedd yn ddyn busnes 'parchus' yn rhedeg garej Moduron Monk a thafarn Y Deri.

"Ma' chware cymeriadau fel 'na wastad yn lot fawr o hwyl," meddai'r actor a gafodd ei fagu yng Nghaerffili ond sydd bellach yn byw yn Aberhonddu.

"Chi ddim cweit yn siŵr beth sy' yn ei ben e, a beth sy'n mynd i ddigwydd nesa' a mae hwnna yn rhoi lot fawr o ryddid i ysgrifenwyr y sgriptiau. Mae ysgrifenwyr penigamp ar y gyfres, ma' nhw'n fodlon datblygu lot fawr o bethau.

"Beth sy'n neis gyda opera sebon yw d'ych chi ddim yn gwybod beth fydd diwedd y stori a mae hynny yn exciting iawn. Gyda dramâu arferol chi'n gwbod bod 'na ddechreuad, canol a diwedd."

Sut brofiad oedd bod yn rhan o opera sebon fwyaf hirhoedlog y BBC, sydd mor eiconig a phoblogaidd yng Nghymru?

"Mae'n braf bod yn rhan o rywbeth sy'n llwyddiant mawr, gyda chast ffantastig, sai'n credu bod cast gwell yng Nghymru i fod yn onest."

Mae Garry Monk wedi cael nifer o affêrs a chariadon gwahanol yn ystod ei ddyddiau yng Nghwmderi, gan gynnwys y stori gyfredol, gyda Jaclyn (Mali Harries) sef chwaer Dylan. Ond mae dwy berthynas yn sefyll allan i'r actor.

"Dwi di mwynhau actio gyda Elin Harris [sy'n chware Dani] a Lisa Victoria [oedd yn chwarae Sheryl]. Nhw oedd y perthnasau mawr yn ei fywyd e, yn ogystal â'r berthynas gyda'i deulu wrth gwrs."

Disgrifiad o’r llun,

Garry a Dani

Yn yr ugain mlynedd, dyw'r cymeriad ddim wedi cadw ymhell iawn o drwbl - o werthu cig amheus, i ddwyn ceir, herwgipio a chael gwared ar arian brwnt. Ond mae 'na ddwy stori sy'n sefyll allan i'r actor fel uchafbwynt, am eu bod nhw yn bwysig, meddai.

"Roedd y stori ynglŷn â thrais yn y cartref, ac hefyd y ffaith fod Garry wedi colli'r babi gyda Dani yn sefyll allan i fi, roedden nhw yn ddwy stori fawr a phwysig."

Mae Richard Lynch yn cydnabod, wrth iddo adael y gyfres, ei bod hi'n gyfnod anodd i'r diwydiant actio ar hyn o bryd.

"Falle ei fod yn amser i fi gael break bach a phenderfynu beth sy'n mynd i ddod nesa'.

"Dwi'n hoff iawn o weithio yn y theatr. Ges i gynnig i wneud rhywbeth yn y theatr cyn y lockdown, ond yn amlwg 'dyw hwnna ddim wedi dod i'r adwy. Ond dwi'n gobeithio fydd cyfle i wneud hynny y flwyddyn nesa'.

"Ni'n gobeithio, yn y diwydiant, bod 'na oleuni ar ddiwedd y twnel, yn amlwg mae'n gyfnod anodd iawn ac mae unigolion yn mynd trwy gyfnod anodd iawn. Dwi ddim yn rhagweld theatrau yn ailagor tan o leia' ddechrau'r flwyddyn nesaf neu ymhellach at yr haf."

Roedd Richard Lynch yn serennu fel Macbeth mewn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghastell Caerffili yn 2017, yn ogystal, mae wedi chwarae rhan Coriolanus gyda National Theatre Wales.

"Roedd y ddwy rôl yna yn her, a falle mai dyna hoffwn i wneud mwy ohono yn y dyfodol, yn ogystal â gwaith teledu.

"Dwi wastad wedi mynd nôl at y theatr. Mae pob rôl yn cynnig rhywbeth gwahanol ond dwi'n teimlo ym maes y theatr bod anghenion yr actor yn fwy pwysig falle."

Yn ystod ei gyfnod ar Pobol y Cwm, mae Richard Lynch hefyd wedi ymddangos ar gyfresi Y Gwyll / Hinterland ac Un Bore Mercher / Keeping Faith ar S4C a'r BBC.

"Dwi'n lwcus, dwi wedi cael cyfnod ffantastig gyda Pobol Y Cwm a bob hyn a hyn dwi 'di cael y profiad o fynd mas i weithio gyda chwmniau eraill, a nawr mae'r amser wedi dod i fi drio hynna eto.

"Mae wastad tristwch ond edrych mlaen hefyd. Dwi yn excited am y dyfodol a gweld beth a ddaw, ond hefyd mae tristwch am adael ffrindiau fi wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw am ddegawdau.

"Ond pwy a ŵyr, efallai fyddai nôl yn y cwm rhyw bryd, sneb yn gwybod oes e!"

Hefyd o ddiddordeb: