Lansio cynllun talebau i annog pobl i wario'n lleol

  • Cyhoeddwyd
Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,

Nod cynllun talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr yw annog pobl i wario'n lleol

Mae tref farchnad yn Sir y Fflint yn lansio menter i annog pobl i wario'n lleol yn ystod y pandemig.

Nod cynllun talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr yw atgyfnerthu siopau'r stryd fawr.

Bydd modd gwario'r talebau mewn 69 o fusnesau, a chael bargen arbennig gan rai siopau.

Yn ôl Joanna Douglass, swyddog busnes ac adfywio Cyngor Tref Yr Wyddgrug, mae'n "hanfodol" dangos beth sydd gan fusnesau i'w cynnig.

"Bydd cadw arian yma, yn lleol, yn effeithio pawb - bydd yn helpu cadw swyddi a datblygu stryd fawr well i bawb," meddai.

Mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddai £2m yn rhagor yn aros yn lleol pe bai pobl ond yn gwario £5 yr wythnos ym musnesau'r dref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gwario'r talebau mewn 69 o fusnesau yn Yr Wyddgrug

Ac yn ôl Ms Douglass, mae'r busnesau hynny wedi addasu i amgylchiadau'r pandemig.

"Dwi wedi cael fy synnu gan y ffordd mae busnesau wedi newid yn ystod y cyfnod yma, gan gynnig cludo nwyddau, a hefyd yn ystod y clo lleol, cynnig gwasanaethau ar-lein," meddai.

Ond rhybuddiodd bod 'na boeni am y clo byr 17 niwrnod sy'n cychwyn ar 23 Hydref.

"Mae'n mynd i gael effaith. Mae'r rhan fwyaf yn poeni am y gefnogaeth fydd ar gael gan y llywodraeth. Dydy hynna ddim yn glir ar hyn o bryd," meddai.

Mae talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr ar gael i'w prynu ar-lein, dros y ffôn, neu ar stondin dros dro yn Neuadd y Dref.