Nyrs wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Ysbyty Maelor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs wedi marw wedi gwrthdrawiad ffordd tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cafodd y nyrs - dyn 46 oed oedd yn gweithio yn yr ysbyty - ei daro gan gar Vauxhall Astra wrth gerdded ar Ffordd Ddyfrllyd ychydig cyn 20:30 nos Iau.
Roedd staff yr ysbyty ymhlith aelodau'r gwasanaethau brys a ymatebodd i'r digwyddiad ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae gyrrwr 32 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, yfed a gyrru, gyrru ac yntau wedi'i wahardd a methu â stopio wedi gwrthdrawiad.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn credu fod y gyrrwr "yn ceisio osgoi car patrôl yr heddlu cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd".
Ychwanegodd llefarydd fod amgylchiadau'r digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Cafodd ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad yn Llys David Lord.
'Digwyddiad trasig'
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Alex Goss: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rydym yn cydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithiwr y dyn, ynghyd â phawb arall sydd wedi eu heffeithio, gan gynnwys y gwasanaethau brys a staff y bwrdd iechyd a ymatebodd neithiwr.
"Mae ein meddyliau gyda nhw i gyd ar yr amser anodd iawn yma ac mae swyddogion arbenigol yn cynorthwyo'r teulu.
"Rydym yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad. Dylai unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Ddyfrllyd ac a welodd Vauxhall Astra du, neu unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru cyn gynted ag sy'n bosib."
Dywed Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydym wedi colli aelod gwerthfawr iawn o'r tîm yn Wrecsam ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'i deulu heddiw.
"Mae hwn hefyd yn gyfnod anodd iawn i'w gydweithwyr a'i ffrindiau ac fe fyddwn yn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth maent eu hangen."