Heddlu'n ceisio cadarnhau symudiadau olaf menyw

  • Cyhoeddwyd
Adell CowanFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Adell Cowan yn siop 7-Eleven Caerffili ddydd Gwener 17 Hydref

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth menyw 43 oed yng Nghaerffili wedi rhyddhau lluniau CCTV ohoni fel rhan o apêl i gadarnhau ei symudiadau olaf.

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i eiddo yn ardal Dolydd Trefore tua 00:10 fore Sul, 18 Hydref wedi i Adell Cowan gael ei darganfod yn farw.

Cafodd dyn 42 oed o'r dref ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae'r llu'n gobeithio clywed gan bobl all fod wedi gweld Ms Cowan yn un o dri lleoliad yn y dref rhwng 20:30 a hanner nos, nos Wener a phrynhawn Sadwrn rhwng 13:00 a 17:00.

Y tri lle yw:

  • Dol-Yr-Eos, Dolydd Trefore;

  • Heol Bedwas, Caerffili ger siop 7-Eleven; a

  • Gwaun Newydd.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi lluniau a gafodd eu tynnu o Ms Cowan yn siop 7-Eleven ddydd Gwener, 17 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Adell Cowen mewn eiddo yn Nol-Yr-Eos

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd, Nick Wilkie eu bod yn gobeithio clywed gan unrhyw un allai fod wedi gweld Ms Cowan neu fod mewn cysylltiad â hi yn y dyddiau cyn iddi farw.

"Wrth i'n hymholiadau i farwolaeth Adell, rydym yn gobeithio bydd rhyddhau'r lluniau CCTV yma'n procio cof rhywun a darparu gwybodaeth allweddol," meddai.

"Fe allai unrhyw wybodaeth helpu, waeth pa mor ddibwys rydych yn meddwl ei fod."

Mae'r llu hefyd yn apelio am luniau dashcam yn yr ardal ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn diwethaf.