Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth nyrs yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty MaelorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r nyrs wedi iddo gael ei daro y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam, nos Iau

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth nyrs a gafodd ei daro y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cafodd y dyn 46 oed ei daro ychydig cyn 20:30 nos Iau.

Dywed yr heddlu bod dyn 32 oed o'r ardal wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, o yrru heb yswiriant ac o yrru pan oedd wedi'i wahardd rhag gyrru. Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru.

Ddydd Gwener dywedodd Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydym wedi colli aelod gwerthfawr iawn o'r tîm yn Wrecsam ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'i deulu heddiw.

"Mae hwn hefyd yn gyfnod anodd iawn i'w gydweithwyr a'i ffrindiau ac fe fyddwn yn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth maent eu hangen."

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un a welodd wrthdrawiad yn cynnwys Vauxhall Astra du i gysylltu â nhw.

Dywedont hefyd bod amgylchiadau'r digwyddiad wedi cael eu cyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).