Y Bencampwriaeth: Bristol City 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Swansea's Marc Guehi tries an overhead kick as Taylor Moore watches onFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marc Guehi o Abertawe yn ceisio cicio'r bêl dros ei ben

Gêm gyfartal gafodd yr Elyrch oddi cartref yn erbyn Bristol City a hynny wrth i'r ddau dîm yn chwech uchaf y Bencampwriaeth wynebu ei gilydd.

Mae'r ddau dîm yn chwarae gemau tebyg iawn, yn cadw'r meddiant a phasio'r bêl, ac oherwydd hynny gêm ddigon tawel oedd hi yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd pethau'n well i Abertawe yn yr ail hanner. Fe basiodd Connor Roberts y bêl i Jamal Lowe yn y blwch cosbi a chydag ergyd droed chwith roedd yr Elyrch ar y blaen.

Yna gyda deg munud i fynd, fe faglodd Semenyo dros draed Connor Roberts oedd wedi syrthio yn y cwrt cosbi, ac wedi i Fryste gael cic gosb ddadleuol fe blannodd Wells y bêl i ganol y rhwyd.

Un pwynt i Abertawe felly er iddyn nhw fod ar y blaen yn bur gyfforddus am gyfnod da yn yr ail hanner.

Mae Abertawe bellach yn bumed yn y Bencampwriaeth.