Pro14: Ulster 40-17 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Wedi pump cais i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf doedd hi ddim syndod mai'r Gwyddelod oedd yn fuddugol ddydd Sul wedi iddyn nhw drechu y Dreigiau o 40-17.
Fe wnaeth pwyntiau Marcell Coetzee, Eric O'Sullivan, Sean Reidy a Louis Ludik sicrhau pwynt bonws o fewn 32 munud i Ulster ac yn fuan wedyn fe groesodd Ludik eto mewn gêm unochrog.
Wedi hanner amser roedd y Dreigiau yn gryfach ac roedd yna geisiau gan Ashton Hewitt a Jamie Roberts ond roedd yna gais arall i'r Gwyddelod hefyd - y tro hwn Alan O'Connor yn sgorio.
Mae buddugoliaeth ddydd Sul yn golygu mai dim ond un pwynt y mae Ulster y tu ôl i Leinster ar frig grŵp A - mae Leinster wedi sicrhau yr uchafswm o bwyntiau yn eu tair gêm agoriadol.
Mae'r Dreigiau yn parhau yn ail o waelod y tabl ac ond wedi ennill un gêm hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020