Trefnydd hediad Sala'n gwadu cyhuddiadau mewn llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 66 oed o Sir Efrog wedi pledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â damwain awyren a laddodd peilot a'r pêl-droediwr Emiliano Sala.
Mae David Henderson wedi ei gyhuddo o beryglu diogelwch awyren a cheisio gollwng teithiwr heb ganiatâd neu awdurdod.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl i'r achos llawn gael ei gynnal ym mis Hydref 2021.
Bu farw Mr Sala a'r peilot 59 oed o Sir Lincoln, David Ibbotson, ym mis Ionawr 2019 wedi i'w awyren Piper Malibu blymio i Fôr Udd.
Roedd yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin yn teithio o Nantes i Gymru ar ôl cytuno i ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd - taith a gafodd ei threfnu gan Mr Henderson.
Daeth adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyren ym mis Mawrth i'r casgliad fod Mr Ibbotson wedi colli rheolaeth o'r awyren wrth geisio osgoi cymylau, a'i fod heb drwydded i hedfan yr awyren.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020