Targed ynni: Tyrbinau sy'n arnofio yn cynnig gobaith

  • Cyhoeddwyd
twrbein yn arnofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall ynni gwynt oddi ar yr arfordir gyflenwi pob cartref erbyn 2030

Gallai tyrbinau gwynt sy'n arnofio ar wyneb y dŵr chwarae rhan allweddol yn y nod o geisio cynhyrchu mwy o ynni adnewyddol o fewn y degawd nesaf.

Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynhyrchu tua 50% o'i thrydan trwy ynni gwynt a'r haul, gyda tharged o 70% erbyn 2030.

Ond wedi treialon llwyddiannus yn Yr Alban, mae gobaith y gall tyrbinau sy'n arnofio roi hwb i'r ymgyrch, gan y gellir eu defnyddio mewn mannau lle mae'r môr yn rhy ddwfn i godi tyrbinau cyffredin.

Yn ddiweddar, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y gallai ffermydd gwynt arfordirol gynhyrchu trydan ar gyfer pob cartref erbyn 2030.

Ac mae Plaid Cymru yn credu y gall Cymru fod yn hunan-gynhaliol o ran ynni adnewyddol erbyn y flwyddyn honno hefyd.

Sut mae hyn yn bosib?

Dangosodd adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y gall dim ond dau neu dri prosiect ynni arfordirol greu 2GW o ynni - digon ar gyfer dros filiwn o gartrefi.

Mae dulliau adnewyddol hefyd yn cynnwys ynni o'r haul, y llanw, tonnau'r mor, prosiectau hydro, ac o grombil y ddaear.

Yn ôl yr athro Nick Jenkins, arbenigwr ar ynni adnewyddol o Brifysgol Caerdydd, mae prosiectau morlynnoedd llanw (tidal lagoons) yn ddrud, ac yn cymryd blynyddoedd cyn cynnig gwerth am arian.

Gallai hynny olygu na fyddent yn ddeniadol iawn pan fydd arian yn brin ar ôl y pandemig coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, BOWL
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm wynt Beatrice oddi ar arfordir Yr Alban yn cynhyrchu digon o drydan i dros 450,000 o dai

Hefyd, roedd ceisiadau am ffermydd gwynt mawr yng nghefn gwlad wedi denu gwrthwynebiad lleol, meddai.

Ond dywedodd fod potensial mawr i brosiectau ynni gwynt ar y môr.

Yn wahanol i ynni haul, sy'n dibynnu ar y tywydd a'r amser o'r dydd, mae gwyntoedd arfordirol fwy neu lai yn ffynhonnell barhaus.

Ond er bod gennym filltiroedd o arfordir yng Nghymru, dywedodd y gallai cynhyrchu trydan fod yn anodd mewn mannau am bod gwely'r môr yn gostwng yn ddramatig mewn sawl lleoliad.

'Addawol'

Serch hynny, dywedodd fod treialon oddi ar arfordir Yr Alban wedi dangos fod y syniad o dyrbinau sy'n arnofio yn bosibilrwydd go iawn bellach, ac nid breuddwyd gwrach fel yr oedd ar un adeg.

Dywedodd Graham Ayling o'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni: "O gofio pa mor gyflym y mae prosiectau ynni wedi cael eu datblygu, a'r ffaith bod y gost yn llai, gallai Cymru fod yn cynhyrchu 100% o'i thrydan erbyn 2030."

Mae gan Gymru tua 1,680 milltir (2,704 km) o arfordir, ac roedd y potensial i greu rhagor o brosiectau yn "edrych yn addawol", meddai Mr Ayling.

Gallai ynni gwynt o dyrbinau sy'n arnofio, yn ogystal ag ynni llanw a thonnau'r môr, fod yn "ffynonellau ychwanegol o bwys".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ynni o'r haul hefyd yn fynhonnell adnewyddol

Yn eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2019, cyflwynodd Plaid Cymru gynigion i geisio gwneud Cymru'n hunan-gynhaliol mewn ynni adnewyddol erbyn 2030.

Dywedodd eu llefarydd ar faterion amgylcheddol, Llyr Gruffydd, fod ffynonellau ynni llanw oddi ar Sir Benfro, yn y Môr Celtaidd, ac oddi ar arfordir Môn, ymhlith y safleoedd gorau yn y byd i gynhyrchu trydan adnewyddol, meddai.

"Fe ddylai fod yn flaenoriaeth i Gymru i ddechrau manteisio ar y rhain," meddai.

Mae Mr Gruffydd am weld mwy o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu, ac mewn sgiliau adeiladu ymhlith y gweithlu.

"[Mae'n rhaid sicrhau] fod prosiectau yn manteisio ar eu potensial o ran ynni, a'u bod yn gweithio er lles y cymunedau lleol, a ddim yn difetha'r amgylchedd," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar newid hinsawdd ac ynni, Janet Finch-Saunders: "Mae ein hadnoddau naturiol yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni sbarduno'r economi trwy greu swyddi coler-werdd, tymor-hir, trwy amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddol, yn cynnwys tyrbinau gwynt arfordirol ac ynni llanw."