Covid: Triniaeth arbrofol i glaf o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Melanie James

Claf o Gaerdydd yw'r gyntaf yng Nghymru i dderbyn triniaeth arbrofol ar gyfer coronafeirws a ddefnyddiwyd ar yr Arlywydd Trump.

Cafodd Melanie James gynnig trallwysiad o wyrthgyrff monoclonoaidd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Dyma'r cyffur diweddaraf i'w ychwanegu at arbrawf clinigol mawr o driniaethau ar gyfer Covid-19.

Fe honnodd yr Arlywydd Trump ei fod wedi ei "wella", ond mae gwyddonwyr yn mynnu bod angen rhagor o ymchwil.

Mae'r driniaeth - sydd heb ei thrwyddedu eto - yn defnyddio cyfuniad o wrthgyrff sy'n glynu at y coronafeirws, gan eu hatal rhag mynd i mewn i gelloedd y corff a dyblygu, tra'n eu gwneud yn fwy "gweladwy" hefyd i weddill y system imiwnedd.

Roedd Ms James yn cael trafferth anadlu ac yn derbyn ocsigen pan gynnigwyd y trallwysiad iddi, ac yna dechreuodd ei symptomau wella.

'Nôl adre bellach - mae'n dweud nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth am gymryd rhan yn yr arbrawf.

"Roeddwn i'n teimlo'n wael iawn, wedi dirywio'n gyflym iawn ac roeddwn i eisiau gwella a helpu pobl eraill i wella," meddai.

"Rydyn ni yn y tywyllwch pan mae'n dod i Covid-19 ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl."

Arbrawf mwyaf

Trallwysiad o wrthgyrff monoclonoaidd yw'r driniaeth ddiweddaraf i'w hychwanegu at arbrawf RECOVERY, sydd wedi bod yn recriwtio cleifion Covid-19 mewn ysbytai ar draws y DU i dreialu triniaethau newydd posibl.

Fe'i disgrifiwyd fel yr arbrawf mwyaf o'i fath yn y byd ac mae eisoes wedi darganfod Dexamethasone fel y cyffur cyntaf i gael effaith gadarnhaol ar sicrhau bod pobl yn goroesi o'r clefyd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod wedi chwarae rhan bwysig, gan recriwtio mwy na 210 o gleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y tîm ymchwil, Zoe Hilton; Nyrs ymchwil, Jennie Williams; a'r fferyllydd Manon Richards

Dywedodd Zoe Hilton, Arweinydd y Tîm Ymchwil ei bod yn "hynod gyffrous... gweithio ar flaen y gad o ran gwaith pwysig i nodi triniaethau a allai fod yn effeithiol ar gyfer Covid-19".

"Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod y gangen hon o'r treial yn parhau yn ei chyfnodau cynnar iawn ac nad yw effeithiolrwydd eang y driniaeth hon yn hysbys eto," ychwanegodd.

Dywedodd yr Athro Martin Landray, Prifysgol Rhydychen sy'n cyd-arwain y treial RECOVERY, wrth y BBC yn gynharach y mis hwn fod y driniaeth gwrthgyrff monoclonoaidd a gynnigwyd i'r Arlywydd Trump yn seiliedig ar "dechnoleg sefydledig, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i ddatblygu mathau tebyg o gyffuriau yn erbyn Ebola".

"Mae wedi dangos canlyniadau addawol iawn, er enghraifft lleihau faint o feirws y mae'r cleifion hynny'n ei gario ond dy'n ni ddim yn gwybod eto a yw'r effaith gref honno ar y feirws yn cynnig manteision i'r cleifion," meddai.

"Felly, er enghraifft, a yw'n lleihau'r amser sydd ei angen ar bobl i fod yn yr ysbyty, neu leihau eu hangen am beiriant anadlu mecanyddol neu wella goroesiad? Dyw hynny ddim yn glir eto."