Alun Wyn Jones i dorri record capiau'r byd
- Cyhoeddwyd
Bydd Alun Wyn Jones yn torri record capiau'r byd trwy chwarae yn ei 149fed gêm ryngwladol ddydd Sadwrn.
Mae capten Cymru wedi ei ddewis i chwarae yn yr ornest yn erbyn Yr Alban yn y Chwe Gwlad - gêm a gafodd ei gohirio ym mis Mawrth oherwydd y pandemig.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, gyda'r gic cyntaf am 14:15.
Bydd Alun Wyn Jones yn mynd heibio i record Richie McCaw am nifer y capiau rhyngwladol, gyda chyn-hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn talu teyrnged i Jones fel "un o'r chwaraewyr gorau erioed".
Fe fydd blaenasgellwr y Gleision, Shane Lewis-Hughes, yn ymddangos am y tro cyntaf dros ei wlad ddydd Sadwrn.
Ni chafodd Lewis-Hughes, 23, ei enwi yn y garfan gwreiddiol o 38.
Mae Liam Williams yn dychwelyd i gymryd lle'r asgellwr George North, tra bod y prop Tomas Francis a'r clo Will Rowlands wedi'u cynnwys.
Mae mewnwr y Scarlets, Gareth Davies yn disodli Rhys Webb, sydd wedi'i anafu, gyda Lloyd Williams - yn hytrach na Kieran Hardy - ar y fainc.
Mae'r canolwr Nick Tompkins yn disgyn i'r fainc ar ôl cael ergyd i'w goes yn y golled i Ffrainc y penwythnos diwethaf, gydag Owen Watkin yn ymuno â Jonathan Davies yn y canol.
Nid oes lle yn y 23 i'r asgellwyr George North a Louis Rees-Zammit, na chwaith i Aaron Wainwright.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (capt), Shane Lewis-Hughes, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Sam Parry, Wyn Jones, Dillon Lewis, Cory Hill, James Davies, Lloyd Williams, Rhys Patchell, Nick Tompkins.
Tîm Yr Alban
Hogg (capt), Graham, Kinghorn, Harris, Lang, Russell, Price; Sutherland, Brown, Z. Fagerson, Cummings, Gray, Ritchie, Watson, Thomson.
Eilyddion: McInally, Kebble, Berghan, Toolis, Du Preez, Steele, Hastings, Van der Merwe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020