Profiadau 2020 a wynebu ail gyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Menai Pitts gyda'i theulu cyn i reolau gyfyngu ein hawl i gwrddFfynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Menai Pitts gyda'i theulu cyn cyfyngiadau'r pandemig

Wrth i Gymru gyfan brofi ail gyfnod clo, tan 9 Tachwedd, yma mae Menai Pitts o Gaernarfon yn rhannu ei hargraffiadau o flwyddyn anarferol; o golli gwaith i bobi bara banana, o golli cwmni a sgwrsio i gadw perspectif mewn dyddiau anodd.

Dwi'n cofio 2020 yn gwawrio. Fe wnes i ddeffro yn llawn gobaith am flwyddyn o hwyl, gŵyl a gwaith.

Roedd penblwyddi arbennig i'w dathlu, gwaith yn mynd â fi ar daith rownd Ewrop efo criw o bobl fendigedig ac achlysur arbennig o hapus ym mis Awst; priodas ein mab Hywel a'i ddyweddi Elin.

Roedd 2020 am fod yn flwyddyn i'w chofio.

Roedd 'na sôn ar y Newyddion ar fore cyntaf Ionawr bod dwsinau o drigolion Wuhan, China wedi eu heintio gan feirws anhysbys, gydag o leiaf saith mewn cyflwr difrifol. Newyddion brawychus, ond dim rheswm i fi boeni. Wedi'r cwbl, mae Wuhan yn bell o Gaernarfon. Roedd arbenigwyr yn monitro'r sefyllfa i atal y feirws rhag lledaenu a doedd neb wedi marw, eto.

Cefais ddechrau da a phrysur i 2020, deuddeg wythnos o gymryd pethau'n ganiataol. Gweithio bob dydd, siopa, mynd i gaffi, cwyno am y sŵn pan oedd yr hogia yn dod draw i wylio'r ffwtbol efo'u tad, mwynhau yng nghwmni teulu a ffrindiau a dau ddathliad pen-blwydd gwych. Roeddwn yn fodlon fy myd ac yn barod am heriau newydd.

Ond doeddwn i, na neb arall, yn barod am her y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Trodd Menai Pitts at heriau newydd yn y gegin yn ystod y cyfnod clo cyntaf

'Colli swydd ac achub bywydau'

Roedd y cyfnod clo cyntaf yn andros o sioc. Collais fy swydd, ac 'aros adra i achub bywydau', gan sefyll ar stepen drws bob nos Iau i glapio'r gweithwyr allweddol mor swnllyd â phosib efo dwy wok. Golchais fy nwylo bob deg munud wrth ganu Pen-blwydd Hapus (fersiwn Martyn Geraint) dros y tŷ. Mae 'na arwydd "Ar Werth" wedi mynd i fyny ar y ddau dŷ drws nesa' yn yr wythnosau diwethaf! Rhyfedd 'de?

Dysgais eiriau newydd fel coronavirus, covid, Zoombombing, quaranteams a furlough (rhywbeth nad oeddwn yn gymwys ar ei gyfer fel gweithiwr llawrydd).

Fy hoff air newydd oedd blursday, methu gwahaniaethu rhwng un diwrnod a'r llall. 'Pa ddiwrnod ydi dwad'? 'Dwmbo, blursday'!

Dysgais fod pobl yn gwneud pethau rhyfedd mewn pandemig, fel rhuthro allan i brynu papur toilet. Dysgais hefyd fod yna bobl hynod ac annwyl, caredig a chymwynasgar yn y byd 'ma.

Gyda'r haul yn boeth, yr awyr yn las a'r strydoedd yn wag, roedd yna rywbeth braf am gael aros adra ar ddechrau'r cyfnod clo. Roedd y gŵr yn GOA (gweithio o adra) a finnau wedi troi i mewn i Nigella Hinch Dimmock, roeddwn yn optimistig ac yn llawn egni.

'Pobi fel bod bara cartra'n mynd i achub y byd'

Roedd y tŷ yn drewi o bleach a disinfectant, trio lladd pob germ ac arbed unrhyw haint. Dwi'n lwcus i gael gardd, a'r ardd yn anlwcus i gael fi.

Dechreuais dyfu llysiau cyn sylwi bod genna i lot i ddysgu! Efo 48 courgette yn barod yr un pryd, rhaid oedd bod yn greadigol, felly gadewais i rai dyfu'n fawr iawn a chreu celf courgette (courgeart) a fues i'n pobi fel bod bara cartra'n mynd i achub y byd.

Ymunais â grwpiau ar Facebook a rhannu lluniau o fy mwyd a fy mara banana.

Ffynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib i fod yn greadigol iawn gyda courgettes o'r ardd

Cefais brofiadau rhithiol rhyfeddol. Roedd Zoom a Teams yn newydd i fi ac yn ffordd dda o gadw cysylltiad. Roedda' ni'n rhan o gwis mwy neu lai bob yn ail ddiwrnod, lot o hwyl ar y cychwyn nes i bawb 'laru a rhedeg allan o gwestiynau.

Dwi wedi ateb cwestiwn am brifddinas Belarus (yn anghywir) saith gwaith.

Gwisgais wig i greu cymeriad, Mennapos, a rhannu fideos ar-lein i geisio diddanu a chodi calon.

Y profiad gwaethaf oedd cael cyfweliad dros Whatsapp, disgwyl galwad audio a derbyn galwad fideo. Nes i'm cael y job, dwi'n amau mod i wedi eu dychryn nhw.

Ffynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Menai ddim yn barod am gyfweliad fideo!

Colli cwmni a cholli sgwrsio

Peth cymhleth ydi gofid a phryder, dyma oedd fy ffordd i o ymdopi rhwng bob bwletin newyddion am Covid-19 a gwylio'r ystadegau yn gwaethygu ar draws y byd.

Fel llawer o bobl, roeddwn yn teimlo'n isel weithiau, colli cwmni a rapport efo pobl a cholli sgwrsio am unrhywbeth heblaw'r coronafeirws! Colli cofleidio'r bobl dwi'n garu. Anodd oedd cadw pellter oddi wrth ein meibion a gweddill y teulu, eu gweld yn achlysurol ar stepen ddrws neu yn yr ardd. Anodd oedd y penderfyniadau byblo, anodd gorfod gwisgo masg.

Pan dwi'n dweud 'anodd', 'niwsans' dwi'n feddwl; mae persbectif yn bwysig.

Anodd ydi bywyd i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y cyfnod yma heb gael cyfle i ffarwelio. Anodd ydi o i bawb sydd efo perthynas mewn ysbyty neu gartref preswyl, anodd ydi o i'r bobl fregus, pobl unig, a'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Anodd ydi i'r holl weithwyr allweddol.

Ble mae'r perspectif yn yr ail gyfnod clo?

A dyma ni, wedi cychwyn ar yr ail gyfnod clo.

Lle mae'r undod, y cyfeillgarwch a'r caredigrwydd rŵan? Lle mae'r parch at y gweithwyr allweddol a'r rhai sydd wedi diodde' neu wedi marw o Covid-19?

Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau roedd llawer o bobl yn cwyno ac yn rebelio, yn gwrthod gwisgo masg, yn trefnu partis Calan Gaeaf yn eu tai. Dros 50,000 o bobl yn arwyddo deiseb i gwyno nad ydynt yn cael prynu tecell, dillad, neu lyfr o archfarchnad, ac eraill yn protestio, yn rhwygo'r plastig sy'n gorchuddio'r non-essential goods. Lle mae persbectif y bobl 'ma?

Dwi'n cofio nôl i Ionawr y cyntaf, pan oedd dwsinau wedi eu heintio a neb wedi marw o Covid-19. Erbyn heddiw mae'r ystadegau ar draws y byd yn ddychrynllyd, ac mae rhai o rheini yn bobl dwi'n adnabod.

Dwi'm yn hapus nac yn cytuno efo rhai o'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud, ond dwi yn credu bod 'na waith caled yn digwydd i geisio curo'r corona, penderfyniadau anodd er ein lles ni.

Felly dwi am barchu a chadw at y rheolau gan obeithio y bydd ein teulu a'n ffrindiau ni yma o hyd, yn fyw ac yn iach i fwynhau cwmni ein gilydd a chofleidio ein gilydd eto cyn bo hir.

Hefyd o ddiddordeb: