67 achos coronafeirws ymhlith staff ffatri Peter's

  • Cyhoeddwyd
Peter's Foods, BedwasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 48 o weithwyr cwmni cynhyrchu bwyd yn Sir Caerffili wedi cael canlyniadau coronafeirws positif, gan ddod â chyfanswm yr achosion yna i 67.

Cafodd uned brofi ei sefydlu tu allan i ffatri Peter's Food ym Medwas yr wythnos ddiwethaf wedi i 19 aelod o staff gael Covid-19.

Dywed y cwmni eu bod "wedi cydweithio'n rhagweithiol" gyda'r awdurdod lleol a gwasanaeth olrhain y GIG mewn ymateb i'r achosion.

Caerffili oedd y sir gyntaf i gael ei gosod dan gyfyngiadau llymach i reoli'r haint cyn i Gymru gyfan ddechrau ar gyfnod clo byr.

"Yn ddelfrydol, dydyn ni ddim eisiau'r un achos ond o ystyried ein lleoliad, byddwn yn disgwyl i rai cydweithwyr ddod yn bositif", medd y cwmni yn eu datganiad.

"Y mater allweddol felly, wrth gwrs, yw rheoli'r sefyllfa i warchod pobl eraill."

Mae nifer o weithwyr y ffatri'n byw mewn siroedd cyfagos eraill "ble mae cyfraddau heintio hefyd yn uchel iawn ar hyn o bryd", gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Yn ôl y cwmni, 11.2% yw canran y canlyniadau positif yno dros saith niwrnod, o'i gymharu â 16.4% drwy'r sir a 14.4% ar draws Cymru.

Ychwanega'r datganiad fod y cwmni wedi cael awgrym y gallai'r profion positif fod yn cynnwys achosion hanesyddol o fewn y 42 diwrnod blaenorol yn ogystal â heintiadau cyfredol.

Osgoi trosglwyddiad

Dywed y cwmni eu bod "fel busnes, yn croesawu'r 'clo tân'" yng Nghymru, a chanmol cyngor a chefnogaeth "hael" yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru "i helpu Peter's ddelio gyda'r digwyddiad yma".

Mae'r cwmni'n pwysleisio mai diogelu iechyd staff yw'r flaenoriaeth, a'u bod yn "hynod ddiolchgar" i'r gweithwyr am eu hymdrechion ers mis Mawrth i gydymffurfio â chanllawiau iechyd i gadw'r becws ar agor.

Mae'n hanfodol nawr, meddai, i bawb ddilyn y rheolau atal coronafeirws yn y gweithle a thu hwnt "i osgoi trosglwyddiad yn y ffatri ac yn y cartref".

Ychwanegodd fod cynlluniau wrth gefn yn helpu lleihau trafferthion cyflenwi nwyddau i gwsmeriaid.

Fe gynhyrchodd Peter's 96% o'i werthiant arferol wythnos diwethaf ac mae'n gweithredu "bron" ar ei lefelau normal yr wythnos hon.