'Amhosib cadarnhau union achos damwain awyren ysgafn'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad wedi dod i'r casgliad nad yw'n bosib cadarnhau achos damwain awyren ysgafn Cessna ger Ynys Môn y llynedd a laddodd y peilot.
Roedd Yr Athro David Last, 79 oed o Lanfairfechan, yn teithio o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno ar 25 Tachwedd pan gollodd gysylltiad radar ger Ynys Seiriol.
Pan ddaethpwyd o hyd i weddillion yr awyren ar wely'r môr, roedd yn amhosib i'w codi ond fe lwyddodd ymchwilwyr i'w sganio.
Fe wnaethon nhw hefyd ail-greu amodau noson yr hediad mewn ymgais i gadarnhau beth aeth o'i le.
Dywed adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyren (AAIB): "Ni fu'n bosib nodi achos pendant y ddamwain.
"Tra roedd ond yn bosib archwilio'n awyren yn weledol o bell, doedd dim arwydd o o fethiant strwythurol, ac fe awgrymodd y prawf ail-greu na fethodd yr injan.
"Daeth y prawf i'r casgliad bod hi'n debygol bod yr awyren angen mewnbwn i'r offer llywio er mwyn cofnodi a chynnal cofnod o'r llwybr glanio terfynol.
"Roedd y peilot wedi bod yn wael yn ddiweddar, ond doedd dim tystiolaeth o analluogi meddygol, er ni ellir diystyru hynny fel achos posib."
Daeth deifwyr o hyd i gorff yr Athro Last dros bythefnos wedi i'r awyren ddiflannu.
Dywedodd ei deulu bryd hynny ei fod yn beilot profiadol.
Roedd yn ddarlithydd morwriaeth a chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes a "ffigwr uchel ei barch".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019