Darganfod corff wedi diflaniad awyren ger Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod deifwyr oedd yn chwilio am beilot awyren aeth ar goll fis diwethaf wedi dod o hyd i gorff.
Roedd Yr Athro David Last yn teithio mewn awyren ysgafn Cessna o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno ac yn ôl ddydd Llun, 25 Tachwedd pan gollodd gysylltiad radar ger Ynys Seiriol.
Dywedodd yr Arolygydd Dave Corcoran bod tîm chwilio dan ddŵr heddluoedd y gogledd orllewin wedi dod o hyd i gorff ger Ynys Seiriol ychydig ar ôl 14:00 ddydd Iau.
"Mae teulu'r Athro David Last wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol Heddlu Gogledd Cymru," meddai.
Mae'r llu hefyd wedi rhoi gwybod i'r crwner.
Mae'r Athro Last, darlithydd morwriaeth a chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei ddisgrifio fel arbenigwr yn ei faes a "ffigwr uchel ei barch".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019