'Angen rhoi eglurder i'r sector bwyd cyn y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
KJ
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kathryn Jones wedi galw am fwy o eglurder i'r sector lletygarwch

Mae un o gyfarwyddwyr cwmni bwyd Castell Howell wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurder ar beth fydd y rheolau i'r sector lletygarwch dros yr wythnosau nesaf.

Ar un adeg, roedd yna bryder y byddai'r cwmni yn gorfod gwaredu cannoedd o swyddi - 52 o weithwyr sydd wedi colli eu gwaith.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cadarnhau na fydd yna gyfres o gyfyngiadau lleol mewn gwahanol rannau o Gymru pan ddaw'r cyfnod clo byr i ben ar 9 Tachwedd.

Yn hytrach bydd yna "set symlach o reolau cenedlaethol" a fydd yn "haws i bawb eu deall", meddai ddydd Gwener.

Ond mae Kathryn Jones o gwmni Castell Howell wedi galw ar y Prif Weinidog i amlinellu yn glir beth fydd y rheolau i dafarndai, gwestai a bwytai dros gyfnod y Nadolig, er mwyn medru cynllunio ar gyfer y cyfnod hwnnw.

'Lot o'n cwsmeriaid ar gau'

"Ni'n mynd i adeg tawel iawn o'r flwyddyn pan mae gwerthiant ar ei lawr," meddai wrth raglen Newyddion.

"Y pryder yw oes gyda ni'r gwaith? Mae lot o'n cwsmeriaid ni'n dal ar gau, 18-20%.

"Pwy sy'n plano'r bwydlenni newydd, y syniadau newydd? Does dim hwyl mas 'na o gwbl.

"Ni angen eglurder, ond mae hefyd angen i ni gael ffydd bod yr hyn sy'n cael ei ddweud [gan y llywodraeth] yn digwydd.

"Ni wedi colli hanner tymor yn barod ond oes dim Nadolig, dywedwch wrthyn ni nawr."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y Prif Weinidog yn darparu mwy o fanylion ddydd Llun.