'Tlodi wedi cynyddu yng Nghymru wedi Covid'

  • Cyhoeddwyd
Hafod tenant Alexander Serpentem
Disgrifiad o’r llun,

Un o denantiaid Hafod, Alexander Serpentem sy'n 29 oed

Mae Cymru yn wynebu mwy o dlodi ac mae haint coronafeirws wedi gwaethygu'r sefyllfa, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae'r adroddiad yn nodi bod 700,000 o bobl yn wynebu tlodi gyda nifer yn cael cyflog isel, methu fforddio prynu cartref na thalu am ofal plant.

Ymhlith y rhai sy'n wynebu tlodi mae 180,000 o blant - y mwyafrif yn byw mewn teuluoedd sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £2bn - mwy nag erioed - mewn tai fforddiadwy.

Ond yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree mae angen gwneud mwy, yn enwedig wrth i'r sefyllfa waethygu yn sgil Covid-19.

Methu talu biliau

Cyn haint coronafeirws, roedd oddeutu chwarter o bobl Cymru yn wynebu tlodi, medd yr adroddiad.

Mae'r pandemig, ychwanega'r adroddiad, wedi taro pobl sy'n ennill cyflogau isel yn ddrwg.

Eisoes mae nifer wedi colli eu gwaith ac mae'r nifer sy'n hawlio Credyd Cynhwysol wedi bron â dyblu ers dechrau'r flwyddyn.

Erbyn mis Mehefin 2020 roedd 400,000 o bobl Cymru ar ei hôl hi yn talu biliau - gyda 200,000 yn hwyr yn talu rhent a thaliadau morgais, medd yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio cwrdd â'r gofyn o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy

Mae Alexander Serpentem, 29 oed o Ben-y-bont wedi byw mewn tŷ cymdeithasol, sy'n cael ei redeg gan gymdeithas Hafod, ers yn fachgen ifanc.

"Ry'ch chi wir angen y rhwydwaith yna o gefnogaeth... mae'n holl bwysig wrth i chi wynebu trafferthion," meddai.

"Heb y fath yma o lety, fyddai gen i ddim byd ac mae cael llety da yn eich hannog i fynd yn ôl i'r gymuned," meddai.

Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynnig gofal plant newydd, i sicrhau rhent fforddiadwy mewn cartref cymunedol ac i sicrhau bod mwy o gartrefi cymdeithasol ar gael i'w rhentu.

Mae nhw hefyd yn nodi y dylid sefydlu System Budd-dal i Gymru.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Sefydliad Joseph Rowntree bod teuluoedd ar draws Cymru yn cael trafferth i dalu rhent a rhoi bwyd ar y bwrdd.

"Nid dyma'r gymdeithas ry'n am i bobl fyw ynddi," meddai Peter Matejic.

"Rhaid i lywodraethau Cymru a San Steffan weithredu er mwyn cefnogi pobl anghenus drwy'r pandemig ac wedi hynny."

'Gwario mwy ar dai fforddiadwy'

Dywedodd Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan: "Dyw hi ddim yn iawn fod cymaint o bobl Cymru yn wynebu tlodi.

"Mae haint coronafeirws wedi cael effaith fawr ar ein bywydau a dyw hi ddim yn deg fod pobl ar incwm isel wedi dioddef yn waeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth wedi gwario mwy ar gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor seneddol hwn - £2bn i gyd - a bod cynnydd o 12% ers 2017-18.

"Mae'r buddsoddiad yn cael effaith arwyddocaol ar faint o dai sydd ar gael i gymunedau yng Nghymru," ychwanegodd, "ac ry'n ni'n gobeithio cwrdd â'r gofyn o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy er gwaethaf effaith y pandemig ar y sector adeiladu tai."