Cyfyngiadau ar forgeisi yn taro pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Wedi misoedd y cyfnod clo cyntaf, mae'r farchnad dai yng Nghymru yn mwynhau cyfnod o dwf, gyda phrisiau cartrefi ar eu huchaf ers tro.
Ond wrth i'r banciau boeni am effaith y pandemig ar swyddi, mae 'na fwy o gyfyngiadau ar forgeisi a'r to ifanc, sy'n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf, yn cael eu taro waethaf.
Mae 'na sôn y gall prisiau ostwng, ond heb sicrwydd morgais, mae cael troed ar yr ysgol yn dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl ifanc.
Dywedodd un sy'n gweithio yn y sector nad yw wedi "gweld dim byd tebyg i hyn" mewn 30 mlynedd.
'Dim ar gael i ni'
Mae Tudur Parry, 28, o Wyddelwern yn Sir Ddinbych a'i ddarpar wraig, Chantelle Holland, wedi bod yn chwilio am dŷ ers dros ddwy flynedd.
Ar ôl arbed o arian digon am flaendal, fe gawson nhw siom wedi'r cyfnod clo cyntaf, o ddeall nad oedd hynny'n ddigon.
"'Dan ni wedi cael ambell i gyfarfod gyda gwahanol bobl ynglŷn â mortgage a manago i gael decision in principle, nath hwnna redeg allan ar ôl i ni fethu ffeindio tŷ oedd yn ddigon o safon ac yn ddigon cyfleus o ran ardal ac hefyd o ran pris," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Ac wedyn yn anffodus, dyma'r Covid-19 yn ein taro ni... dyma ni'n mynd mewn i drio cael morgais, ond ar yr ail gynnig oedd beth oedd ar gael lot drutach.
"Rydan ni wedi crafu pres at ei gilydd ond mae'r hyn sydd ar gael, does 'na jyst ddim llawer ar gael i ni," meddai Tudur Parry.
"Rydan ni wedi gorfod hel £10,000 i roi deposit 10% lawr... ond roedd y pobl mortgage yn ein cynghori ni i fynd i fyny at 15% ar dŷ, er mwyn cael mwy o siawns.
"Ond dwi ddim yn siwr iawn sut maen nhw'n disgwyl i bobl ifanc sydd isio aros yn lleol yn enwedig, a phrynu cartrefi lleol yng Nghymru, sut maen nhw'n disgwyl i ni allu fforddio," ychwanegodd Mr Parry.
Benthycwyr yn fwy gofalus
Oherwydd y pryder ynglŷn â swyddi, mae benthycwyr nawr yn llawer fwy gofalus cyn benthyg arian drwy forgais.
Er enghraifft, roedd sicrhau morgais 90% a chyfrannu 10% o bris y tŷ eich hunain drwy flaendal, yn arfer bod yn opsiwn, ond o ganlyniad i Covid-19, mae llawer o'r banciau wedi tynnu y math yna o forgeisi yn ôl.
Erbyn hyn, mae llawer o fenthycwyr yn gofyn am o leiaf 15% o flaendal.
Ar gyfer tŷ gwerth £200,000 er enghraifft, mae hynny'n golygu gorfod cynilo £30,000 er mwyn cyrraedd y trothwy.
Wrth i'r morgeisi gyfyngu, mae'r prisiau ar hyn o bryd yn parhau i gynyddu.
"Ni wedi gweld bod y farchnad dai o ran gwerthu wedi tyfu, mae'n gryf iawn," meddai Carys Davies, sy'n berchen ar gwmni gwerthu tai, Perfect Pads, ger Abertawe.
"[Mae] gwahanol sectorau o bobl mo'yn prynu, lot yn gweld bod nhw'n gweithio o adre, felly mae eu disgwyliadau nhw wedi newid o ran falle bod nhw'n edrych i brynu tŷ mwy o faint, mwy o ardd y tu allan."
'Sawl her yn wynebu pobl ifanc'
Ac mae Nigel Stone, sy'n syrfëwr siartedig ger Aberaeron, yn dweud hefyd bod y galw am dai ar y farchnad yn uwch nag erioed.
"Sai wedi gweld dim byd tebyg i hyn yn y 30 mlynedd dwi wedi bod yn gwneud y gwaith yma. Mae galw mawr am dai ac yn fwy na beth sydd ar gael.
"Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, ni wedi gweld pethau yn arafu ychydig, fel mae'r feirws yn cynyddu nawr... mae fel 'se pobl yn sefyll 'nôl tipyn bach.
"Ond mae e yn anodd iawn ar bobl ifanc ar sut maen nhw'n mynd i gael [mynediad] at y farchnad dai, mae sawl her yn wynebu nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020