Galw am ganiatâd cynllunio cyn prynu tai haf

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Aberdaron: Mae gan Wynedd fwy o ail gartrefi nag unman arall yng Nghymru

Mae cadeirydd pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn galw am newid y ddeddf i sichrau bod yn rhaid i bobl sydd eisiau prynu ail gartref neu dŷ haf gael caniatâd cynllunio i wneud hynny.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Llun, dywedodd y Cynghorydd Elwyn Edwards ei fod yn bwriadu gwneud cynnig yng nghyfarfod yr awdurdod fis nesaf i "newid y ddeddf cynllunio fel bod yn rhaid cael caniatâd cynllunio i droi tŷ yn ail gartref neu yn dŷ haf".

Mae Elwyn Edwards yn cynrychioli ward Llandderfel ar Gyngor Gwynedd. Dywedodd bod y sefyllfa wedi gwaethygu yn ddiweddar: "Be sy'n digwydd ers yr haint Covid-19, mae tua 40% o'r holl dai a werthwyd yng Ngwynedd wedi mynd yn ail gartrefi. Mae hyn yn digwydd ers blynyddoedd ond ddim i'r ganran yma.

"Y broblem yma ydy mai rhyw £24,000 ydy cyfartaledd cyflog yma. Mae'n anodd iawn prynu am y tro cyntaf ac os am brynu yng nghefn gwlad mae angen cannoedd ar filoedd."

Pan ofynnwyd pa mor anodd fyddai hyn i'w blismona am nad yw'r gwerthwr yn aml yn gwybod beth yw bwriad y prynwr, dywedodd: "Fe fydd y cyngor sir yn gwybod drwy drethi ac yn y blaen a ydy'r prynwr eisiau troi'n tŷ yn ail gartref. Mae'n bosib gwneud hyn os ydy'r ewyllys yno."

'Heriau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr "heriau y gall ail gartrefi a chartrefi gwag eu cyflwyno i gyflenwi tai fforddiadwy mewn rhai cymunedau" yng Nghymru: "Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd y tymor Senedd hwn, a Chymru yw'r unig genedl yn y DU i fod wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth y cyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi tymor hir.

"Mae ein Treth Trafodiadau Tir hefyd yn cynnwys tâl ychwanegol o 3% am bryniannau ail gartref a phrynu i osod yng Nghymru, ac yn ddiweddar gwnaethom newid i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth busnes ar gyfer eiddo hunanarlwyo."

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn parhau i fonitro'r system yn agos a byddwn yn gwneud newidiadau pellach petai angen."