Cyhoeddi cynllun i uno dwy ysgol yng Nghrymych, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi eu bwriad i uno dwy ysgol yng Nghrymych ac agor ysgol 3-19 oed yn eu lle.
Mewn llythyr at rieni mae'r awdurdod wedi dweud eu bod nhw'n dymuno cau Ysgol y Frenni ac Ysgol y Preseli erbyn diwedd Awst 2021, a sefydlu ysgol newydd 3-19 oed ar y safleoedd presennol ym mis Medi'r flwyddyn honno.
Mae hysbysiad statudol i'r cynnig, a gafodd ei basio gan y cyngor ar 8 Hydref, bellach wedi cael ei gyhoeddi.
Mae'r ddwy ysgol yn rhannu'r un campws yn y pentref.
Cafodd Ysgol y Frenni ei sefydlu fel ysgol gynradd gymunedol Gymraeg yng Nghrymych yn 2004 ar ôl i Gyngor Penfro gau ysgolion Hermon a Blaenffos.
Mae gan Ysgol y Preseli, sy'n ysgol ddwyieithog, dros 900 o ddisgyblion ar ei llyfrau, ac mae ganddi chweched dosbarth.
Yn ôl yr hysbysiad statudol, categori iaith yr ysgol fydd Cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr elfen 3-11, a Dwyieithog AB (2A) ar gyfer yr elfen 11-19.
Capasiti'r ysgol newydd fydd 210 o ddisgyblion cynradd a 955 uwchradd.
Bydd Bwrdd Llywodraethol Dros Dro yn penodi pennaeth ar gyfer yr ysgol newydd, a nhw hefyd fydd yn penderfynu ar enw newydd i'r ysgol.
Mae gan unrhyw un sydd eisiau gwrthod y cynnig yr hawl i wneud hynny nes 29 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2016