Diffoddwr tân yn ôl wrth ei waith wedi iddo gael Covid yn wael

  • Cyhoeddwyd
Stephen LandonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Stephen dair wythnos yn yr ysbyty yn gynharach eleni

Mae diffoddwr tân o Wrecsam a dreuliodd wythnosau mewn uned gofal dwys gyda Covid-19 bellach yn ôl wrth ei waith.

Cafodd Stephen Landon, 39, ei ruthro i Ysbyty Maelor Wrecsam ar 28 Mawrth.

Treuliodd dair wythnos yno, ac ar un adeg bu bron iddo gael ei roi ar beiriant anadlu.

Mae bellach yn ôl ar shifft gyda'i gydweithwyr yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy ar ôl treulio saith mis yn gwella yn gwneud ymarferion ffisiotherapi, codi pwysau ac anadlu.

"Dydy pobl ddim yn sylweddoli'r effaith feddyliol mae'n cael ar bobl sydd wedi cael Covid yn ddifrifol," meddai'r tad i bedwar o blant.

"I fod yn ôl gyda'r dynion yn y gwaith a chael croeso i'r gwasanaeth tân, yn feddyliol mae wedi bod yn wych i mi ac wedi rhoi seibiant i fy ngwraig oddi wrtha'i.

"Mae'r pethau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi'u rhoi ar waith i fy amddiffyn wedi bod yn rhagorol."

Dywed Stephen ei fod yn benderfynol o ddychwelyd i'w waith yn gryfach nag yr oedd cyn iddo gael ei daro'n waelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Stephen ei fod yn benderfynol o ddychwelyd i'w waith yn gryfach nag yr oedd cyn iddo gael ei daro'n wael

Mae gwraig Stephen, Becky, a ddaliodd y feirws hefyd ac a oedd â symptomau ysgafn, yn nyrs staff pediatreg yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Mae'n braf ei gael adref ac erbyn hyn mae wedi mynd yn ôl i'r gwaith, sy'n teimlo fel carreg filltir yn yr holl broses", meddai.

"Roedd cwpl o ddiwrnodau yn yr ysbyty pan oeddem ni'n meddwl efallai nad oedd hyd yn oed yn dod adref.

"Ond unwaith iddo ddod allan, oherwydd ei benderfyniad, roeddwn i'n gwybod y byddai'n dychwelyd i'r gwaith."