Cabinet yn parhau gyda'r broses i gau Ysgol Abersoch

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Abersoch
Disgrifiad o’r llun,

Mae deg o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Abersoch ar hyn o bryd

Mae ymgais i atal y broses o gau ysgol gynradd yng Ngwynedd wedi methu â pherswadio cynghorwyr i ailfeddwl.

Ddydd Mawrth, pleidleisiodd aelodau cabinet Cyngor Gwynedd yn unfrydol i barhau gydag ymgynghoriad statudol i gau Ysgol Abersoch - sy'n ysgol i 10 o ddisgyblion - er gwaethaf ymdrechion pwyllgor i atal yr ymgynghoriad yn sgil y pandemig.

Fis diwethaf dywedodd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi bod angen i'r cabinet ailystyried y penderfyniad, gan honni y byddai'r pandemig yn effeithio ar y gallu i gynnal ymgynghoriad "teg".

Er hyn, penderfynodd aelodau o'r cabinet i fwrw 'mlaen â'r cynlluniau i gau'r ysgol erbyn mis Medi 2021 ar ôl i benaethiaid addysg bwysleisio nad yw cadw'r ysgol ar agor yn gynaliadwy.

Mae'r ysgol yn addysgu disgyblion o dri i wyth oed, ac mae ganddi le i 34 o ddisgyblion.

Ond ar hyn o bryd, er bod poblogaeth o 783 o bobl yn y pentref, ond dau o blant meithrin ac wyth o ddisgyblion llawn amser sydd yn mynychu'r ysgol.

Mae'r wyth disgybl llawn amser a'r ddau blentyn yn yr ysgol feithrin yn costio £17,404 y pen i'r awdurdod - dros pedair gwaith cyfartaledd y sir o £4,198.

Os bydd yr ysgol yn cau, bydd y disgyblion yn cael eu hanfon i Ysgol Sarn Bach, 1.4 milltir i ffwrdd.

Yn siarad yng nghyfarfod y cabinet dydd Mawrth, dywedodd cynghorydd Abersoch, Dewi Wyn Roberts, ei fod yn pryderu na fyddai'r pandemig yn caniatáu cyfarfodydd cyhoeddus i gael eu cynnal.

Ychwanegodd byddai'r Cylch Meithrin sydd yn barod yna yn hybu'r nifer o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol dros amser os fyddai mwy o amser yn cael ei ganiatáu i gadw'r ysgol ar agor, a bod absenoldeb y prifathro o ganlyniad i golled yn y teulu yn ffactor arall i ystyried.

Ychwanegodd Mr Roberts ei fod wedi derbyn adborth o drigolion ym mhentref Carmel, sydd eisoes wedi colli ysgol y pentref: "Clywais fod plant y pentref nawr yn mynd i ysgolion gwahanol a bod pryderon nad yw'r plant yn nabod na'n chwarae gyda'i gilydd bellach, sydd wedi cael effaith dinistriol ar y gymuned yn gyffredinol.

"Dwi'n gobeithio eich bod yn adnabod y diffygion wrth gario allan ymgynghoriad yn yr amgylchiadau presennol a gyda'r lefel presennol o gyfathrebu."

Ond pwysleisiodd penaethiaid addysg nad oedd unrhyw reswm i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus fel rhan o ymgynghoriad statudol, ond byddai cyfarfodydd rhithiol yn cael eu cynllunio i siarad â randdeiliaid a thrigolion dros y ffôn os fydd angen.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith: "Mae'n debyg bydd y pandemig yn parhau am beth amser ac mae awdurdodau wedi addasu i'r normal newydd.

"Os fyddwn yn gohirio'r cynlluniau, oes unrhywbeth i ddweud na fydden ni yn yr un un sefyllfa'r flwyddyn nesaf?

"Bydd pawb sydd eisiau cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn gallu, ac fel rhywun sy'n adnabod Dewi, fe fydd o'n llais cryf i'r gymuned yn ystod y broses."

Pleidleisiodd y cabinet yn unfrydol i barhau gyda'r broses ymgynghori.