Galw am wneud mwy i ddenu pobl ifanc i'r ynadaeth

  • Cyhoeddwyd
ynadon
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau diweddaraf dim ond 10 o'r 997 o ynadon yng Nghymru sydd o dan 30 oed

Mae Cymdeithas yr Ynadon yn galw am wneud rhagor i annog pobl ifanc i'r ynadaeth yng Nghymru, wrth i ffigyrau ddangos mai prin iawn yw'r niferoedd o dan 40 oed.

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Bev Higgs, ei bod yn "siomedig" nad oes cydbwysedd gwell o ran oedran ynadon Cymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU, o'r 997 o ynadon yng Nghymru, dim ond 10 ynad sydd o dan 30 oed.

Mae 51 ynadon o dan 40, a 189 o dan 50 oed.

Mae bron i hanner ynadon Cymru - 48% - yn 60 neu hŷn.

Wrth edrych ar y ffigwr hwnnw mae'n rhaid cofio bod yn rhaid ymddeol o'r fainc pan yn 70.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bev Higgs ei bod yn "siomedig" nad oes cydbwysedd gwell o ran oedran ynadon

Yn ôl Ms Higgs mae gwaith ymchwil yn dangos bod amrywiaeth o fewn yr ynadaeth yn arwain at benderfyniadau gwell o ran cyfiawnder.

"Mae'n angenrheidiol bod rhagor yn cael ei wneud er mwyn denu pobl ifanc i'r ynadaeth, sy'n golygu ymgyrch sydd wedi ei thargedu a'i hariannu'n gywir ac sy'n sicrhau bod gwaith ynadon yn cael ei ddeall a bod cyfleoedd yn cael eu hysbysebu i bobl ifanc ar draws Cymru," meddai wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Mae'n amlwg bod safbwynt person 18 oed, neu hyd yn oed rhywun yn ei 20au neu 30au yn mynd i fod yn wahanol i rywun hŷn.

"Fe fydd gan y grŵp oedran yna safbwynt unigryw ar fywyd heddiw.

"Dwi'n cofio pan nes i ymuno â'r ynadaeth, roedd yn rhaid i fi esbonio i ynad llawer hŷn beth oedd lightsaber.

"Dyna'r math o gyfeiriad diwylliannol sy'n codi yn y llys weithiau, ac fe fydd pobl ifanc, neu hyd yn oed pobl gyda phlant ifanc neu oedolion ifanc yn y cartref yn ymwybodol ohono, ond nid efallai grwpiau oedran hŷn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Thomas Tudor Jones bod "diffyg ymwybyddiaeth" am pwy all fod yn ynad heddwch

Mae Thomas Tudor Jones o Dreorci yn un o'r 10 ynad heddwch yng Nghymru o dan 30 oed, ac mae wedi bod yn y rôl ers blwyddyn.

"O'n i eisiau cyfle i wirfoddoli yn y gymuned," meddai.

"Dwi'n cofio gwylio cyfweliad ar raglen Heno lle roedd ynad heddwch wedi siarad ynglŷn â'r angen i fwy o bobl ifanc ymgymryd â'r rôl, ac roedd hynny'n sbardun i'r diddordeb a chynnig cais.

"Dyw e ddim synnu fi i fod yn onest [bod cyn lleied o bobl ifanc yn gwneud y rôl] achos ers i fod yn eistedd dwi ddim wedi eistedd ar y fainc gyda rhywun yr un oedran a fi, nac yn agos at hynny."

"Dwi'n credu bod 'na ddiffyg ymwybyddiaeth - mae'n agored i ni gyd.

"Os wyt ti'n 18 oed i fyny at 65, mae modd i ti gyflwyno cais, a does dim angen unrhyw gefndir penodol arnoch chi.

"A hefyd mae hyblygrwydd yn rhan o eistedd. Bod modd i ti gael hynny yn rhan o weithio neu beidio.

"Rhaid cofio ei fod e'n agor i'r rhai sydd ddim yn gweithio. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael cynrychiolaeth well ar y fainc."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfreithiwr Gareth Jones yn credu bod angen ynadon iau er mwyn rhoi tegwch i ddiffynyddion ifanc

Yn ôl Gareth Jones, cyfreithiwr gyda chwmni Gomer Williams & Co yn Llanelli, ma rhai diffynyddion yn gweld gwahaniaeth os yw'r ynad yn agos iddyn nhw o ran oedran."Ma cadeirydd y fainc, fod i siarad gyda'r diffynnydd a gofyn pam bod nhw wedi neud rhywbeth - pam bod nhw wedi dwyn rhywbeth, pam bod nhw wedi bwrw rhywun - a ma nhw'n treial deall y rheswm pam fod y person wedi dod i'r cwrt.

"Pan fi'n siarad gyda'r diffynyddion cyn ac ar ôl iddyn nhw fod yn y cwrt, ma rhai yn dweud bod y cadeirydd yn neis neu yn lyfli, ond ma rhai yn dweud 'ma'r person lan fynna sydd yn ei 60au yn siarad da fi fel fy mod i'n blentyn bach a 'smo nhw'n deall beth fi wedi bod trwyddo'".

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn datganiad: "Rydym yn buddsoddi tua £1m er mwyn annog pobol o bob cefndir i'r ynadaeth, gan gynnwys pobl o grwpiau amrywiol ac ifanc."