Pryder am ddiffyg ynadon yng Nghymru ar ôl cau llysoedd
- Cyhoeddwyd
Mae pryder nad oes digon o bobl yn gwirfoddoli i fod yn ynadon heddwch, yn dilyn nifer y llysoedd sydd wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymysg yr 20 o lysoedd ynadon sydd wedi cau dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae rhai mewn trefi megis Pwllheli, Prestatyn, Dolgellau ac Aberhonddu.
Mae hynny'n golygu bod rhai ynadon yn gorfod teithio'n bellach i drefi mwy i wneud y swydd, sydd yn un di-dâl.
Ond wrth i ymgyrch recriwtio newydd gael ei lansio, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud bod y llwyth gwaith wedi lleihau.
'Gofyn lot'
Ar hyn o bryd, mae tua 1,000 o ynadon yn gweithio yng Nghymru, gan wasanaethu'r 14 llys sy'n parhau ar agor.
Fel rhan o'r ymgyrch recriwtio, cafodd noson agored ei chynnal yn ddiweddar yn Llys y Goron Caerdydd i'r cyhoedd gael blas ar waith yr ynadon.
Ond yn ôl y Barnwr Mererid Edwards, mae cau llysoedd yn mynd i "gael effaith" ar y niferoedd a "does dim ffordd o osgoi hynny".
"Ar ddiwedd y dydd, mae'r bobl o'r gymuned hefyd yn gorfod trafaelio i'r llys, a fyswn i'n gobeithio bod gwirfoddolwyr fel y Cymry yn barod i drafaelio," meddai wrth Newyddion 9.
"Mae o yn gofyn lot, a dwi'n derbyn hynny."
Mae'n bosib y gallai prinder ynadon o ardaloedd gwledig hefyd effeithio ar y nifer all weithio drwy'r Gymraeg yn y dyfodol.
"'Dan ni wedi gweld nifer o lysoedd ynadon yn ystod y degawdau diwethaf sydd wedi cau mewn ardaloedd mwy Cymreig," meddai'r Barnwr Hywel James.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i annog pobl o'r ardaloedd hynny i wneud ceisiadau i fod yn ynadon."
'Rhoi rhywbeth ynôl'
Serch hynny, mae rhai o'r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y maes yn dweud bod y gwaith yn rhoi boddhad mawr iddyn nhw.
"Mae'n bwysig iawn bod y rhai ohonom ni sydd wedi cael ein codi'n dda yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned," meddai Alun Tregelles Williams, Ynad Heddwch yn Abertawe.
Ychwanegodd Aled Rowlands, Ynad Heddwch yng Nghaerdydd: "Mae hynny'n meddwl bod eisiau pobl newydd i ddod ymlaen, ac yn enwedig falle pobl sydd tamed bach yn wahanol i beth fuasech chi'n meddwl yw ynadon heddwch."
Wrth ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw'n adolygu nifer yr ynadon yn rheolaidd, a bod y llwyth gwaith yn gostwng gyda mwy o ddefnydd, bellach, o wasanaethau digidol.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn buddsoddi dros £1bn yn y system gyfiawnder ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017