Prinder 'difrifol' o ynadon heddwch yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna brinder difrifol o ynadon heddwch yng Nghymru - dyna neges Cymdeithas yr Ynadon Heddwch.
Mae Prif Weithredwr y gymdeithas, Jon Collins, wedi dweud wrth Newyddion9 bod meinciau â dim ond dau ynad yn dod yn fwyfwy cyffredin - sefyllfa sy'n "annerbyniol" yn ystod achosion.
Wrth ymateb, fe ddywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd yna ymgyrch recriwtio newydd a'u bod yn gwario dros biliwn o bunnau ar foderneiddio gwaith y llysoedd.
Ychwanegodd y llefarydd bod llwyth gwaith yr ynadon hynny'n llai bellach wrth i wasanaethau digidol ddatblygu.
Ar hyn o bryd mae ynadon yn cael eu gorfodi i ymddeol yn 70 oed sy'n golygu y bydd rhaid i hanner ynadon Cymru (52%) ymddeol yn ystod y ddegawd nesaf.
Yn Ebrill 2008 roedd yna 1,938 o ynadon yng Nghymru ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod y nifer wedi gostwng i 1,130 (42%) erbyn Ebrill 2018.
Ffactor arall yw bod llysoedd ynadon wedi cau ar draws y wlad - roedd 36 yng Nghymru yn 2010 ond dim ond 14 yn 2018.
Bu'n rhaid i Rheinallt Armon Thomas ymddeol fel ynad ddeg mlynedd yn ôl pan yn 70 oed ond petai e wedi cael dewis efallai y byddai wedi parhau'n ynad.
Dywedodd: "Doedd 'na ddim dewis - dwi'n teimlo bo' fi dal yn ddigon effro ac yn ddigon hyddysg yn y maes i allu gweithredu o hyd, ond dyna fo mae rhywun yn gorfod rhoi mewn i'r drefn ond mae'n beth hen ffasiwn mynnu oedran ymddeol."
'Angen gweithredu ar frys'
Dywedodd Mr Collins hefyd bod mwy o bwysau ar ynadon i eistedd ar feinciau eraill a hynny ar fyr rybudd.
"Er mwyn delio â'r prinder," dywedodd, "mae angen ymgyrch recriwtio a rhaglen hyfforddi ar frys.
"Rhaid cael adnoddau ar gyfer hysbysebu a chynlluniau i hybu gwaith ynad heddwch ymhlith cyflogwyr a chymdeithas yn gyffredinol.
"Mae'n hen bryd cael mwy o ynadon heddwch yng Nghymru a rhaid sicrhau bod hynny yn digwydd yn fuan."
Yn ôl Huw Onllwyn, sy'n ynad yng Nghaerdydd, mae'n swydd ddi-dâl ac mae'n anodd i nifer ymgymryd â'r gofynion.
Dywedodd llefarydd ar ran Y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys: "Mae ynadon yn rhan allweddol o'n system gyfiawnder a dyna pam bod gennym gynlluniau i lansio ymgyrch genedlaethol i ddenu ynadon newydd mewn byr amser.
"Byddwn hefyd yn gwario £1bn ar foderneiddio'r system droseddol gan ddarparu gwasanaeth mwy hylaw a gwerthfawr i'r trethdalwr.
"Mae llwyth gwaith ynadon wedi lleihau bob blwyddyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf ac wrth i wasanaethau digidol ennill tir mae'n gwneud synnwyr ystyried lle a sut mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu."
Ychwanegodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod llysoedd wedi cau yng Nghymru wedi ymgynghoriad cyhoeddus a bod yr adeiladau hynny yn isel eu safon, yn fach ac yn llai effeithiol.
"Roedd hynny felly," meddai llefarydd, "yn caniatáu canolbwyntio ar lai o adeiladau, gwell eu safon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016