Cyngor diogelwch brys wedi damwain trên Llangennech
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor diogelwch brys wedi cael ei gyhoeddi yn dilyn digwyddiad lle daeth trên nwyddau oddi ar y cledrau ym mis Awst eleni.
Nam ar y brêcs oedd yn gyfrifol am achosi damwain trên ger Llanelli wnaeth arwain at ollwng 330,000 litr o danwydd, yn ôl arolygwyr.
Fe wnaeth y nam achosi i'r trên adael y cledrau gan arwain at dân enfawr, gyda 300 o bobl ym mhentref Llangennech yn gorfod gadael eu cartrefi ar 26 Awst.
Fe ddylai cwmnïau sy'n gyfrifol am gynnal a chadw wagenni sydd fel arfer yn cario nwyddau peryglus adolygu eu prosesau er mwyn lleihau'r risg o'r brêcs yn methu, medd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd (RAIB).
Dylai hyn gynnwys asesu cymhwysedd y staff a chyflwr y dyfeisiau diogelwch.
Cafodd y cyngor ei gyhoeddi fel rhan o ymchwiliad yr RAIB i'r digwyddiad pan ddaeth nifer o wagenni oddi ar y cledrau ger Llangennech.
Daeth adroddiad cychwynnol yr RAIB ym mis Medi i'r casgliad bod rhai o olwynion y trên wedi eu difrodi oherwydd nam ar y brêcs wedi i ddarn ddod yn rhydd.
Dywedodd yr ymchwilwyr nad oedd "unrhyw gofnod o wirio a oedd y dyfeisiau diogelwch wedi eu tynhau erioed".
Roedd y trên, syn eiddo i DB Cargo UK, yn teithio o burfa Robeston yn Aberdaugleddau i ganolfan dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.
Roedd yn teithio ar gyflymder o tua 30mya pan ddaeth oddi ar y cledrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020